Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dim Gwastraff, Platiau Llawn: Tu Mewn i Genhadaeth Cwpwrdd Bwyd Rossett
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Dim Gwastraff, Platiau Llawn: Tu Mewn i Genhadaeth Cwpwrdd Bwyd Rossett
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Dim Gwastraff, Platiau Llawn: Tu Mewn i Genhadaeth Cwpwrdd Bwyd Rossett

Diweddarwyd diwethaf: Medi 6, 2024 11:22 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Dim Gwastraff, Platiau Llawn: Tu Mewn i Genhadaeth Cwpwrdd Bwyd Rossett
RHANNU
  • Dim Gwastraff, Platiau Llawn: Tu Mewn i Genhadaeth Cwpwrdd Bwyd Rossett
  • Dim Gwastraff, Platiau Llawn: Tu Mewn i Genhadaeth Cwpwrdd Bwyd Rossett
  • Dim Gwastraff, Platiau Llawn: Tu Mewn i Genhadaeth Cwpwrdd Bwyd Rossett
  • Dim Gwastraff, Platiau Llawn: Tu Mewn i Genhadaeth Cwpwrdd Bwyd Rossett
  • Dim Gwastraff, Platiau Llawn: Tu Mewn i Genhadaeth Cwpwrdd Bwyd Rossett
  • Dim Gwastraff, Platiau Llawn: Tu Mewn i Genhadaeth Cwpwrdd Bwyd Rossett

Ychydig dros flwyddyn yn ôl aeth Claire a Paul Marshall ati i fynd i’r afael â gwastraff bwyd a chefnogi eu cymuned. Mae’r hyn a ddechreuodd fel menter fach yn yr Orsedd bellach wedi tyfu’n llinell bywyd hanfodol i gannoedd o deuluoedd.

Yn wreiddiol, roedd Cwpwrdd Bwyd yr Orsedd yn ymdrech fach i atal bwyd rhag mynd i safleoedd tirlenwi a chynorthwyo ychydig o gymdogion – ond buan iawn y sylweddolodd Claire a Paul fod yna angen difrifol yn eu cymuned. Heddiw mae’r Cwpwrdd Bwyd yn cael tua 400 o ymweliadau bob wythnos ac yn cydweithio’n rheolaidd gyda’r gwasanaethau cymdeithasol i helpu pobl mewn angen. Yn ogystal â hyn maen nhw hefyd yn dosbarthu bocsys bwyd gyda’r nos, i geisio sicrhau nad oes neb yn newynog.

Mae graddfa eu hymdrechion wedi tyfu’n aruthrol. O gychwyn digon cyffredin gyda thri char a sied fach ddau fetr sgwâr, mae gan y Cwpwrdd Bwyd bellach ddwy fan, dau gar a swyddfa 32tr wrth 10tr ar dir maen nhw’n ei brydlesu gan garej oddi ar Gilgant Waverley, LL12 0EG, sy’n dyst i dwf parhaus a’r galw cynyddol am eu gwasanaethau.

Er gwaethaf yr ehangu cyflym, mae Cwpwrdd Bwyd yr Orsedd yn wynebu heriau sylweddol. Er eu bod nhw’n casglu bwyd gan y rhan fwyaf o’r archfarchnadoedd chwe diwrnod yr wythnos, ac yn derbyn rhoddion gan y cyhoedd, maen nhw dan bwysau mawr. Oherwydd diffyg cyllid a chasgliadau bwyd digonol maen nhw’n cael trafferth cwrdd â’r galw sy’n cynyddu’n barhaus..

Meddai Paul Marshall: “Ac eithrio Banc Bwyd Wrecsam, mae’n siŵr mai ni ydi’r un mwyaf yn yr ardal, ac rydym ni’n dal yn tyfu.”

Mae’r Cwpwrdd Bwyd yn gweithio mewn ffordd wahanol i fanciau bwyd traddodiadol gan mai’r prif nod ydi lleihau gwastraff. Ar agor saith diwrnod yr wythnos, mae croeso i unrhyw un gerdded i mewn a chymryd unrhyw beth sydd ei angen arnyn nhw. Mae ganddyn nhw bolisi dim gwastraff, gan sicrhau bod unrhyw fwyd na ellir ei ddosbarthu yn cael ei roi i ffermwyr lleol er mwyn atal gwastraff.


Oriau agor:

  • Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Gwener: 10:30 AM – 2:30 PM a 3:30 PM – 5:30 PM
  • Dydd Iau: 10:30 AM – 2:30 PM
  • Dydd Sadwrn a dydd Sul: 10:30 AM – 4:00 PMM

Mae codi arian yn elfen hanfodol o’u gwaith. Mae Claire a Paul yn trefnu dau neu dri digwyddiad codi arian bob blwyddyn. Ar ôl cael lleoliad newydd, maen nhw rŵan yn bwriadu canolbwyntio ar godi arian i brynu fan newydd sy’n fwy dibynadwy. Mae’r fan sydd ganddyn nhw ar hyn bryd, sy’n hanfodol i’w gwaith, yn hen ac yn annibynadwy a does ganddi ddim y cyfleusterau rhewi angenrheidiol.

Mae Cwpwrdd Bwyd yr Orsedd yn dyst i bŵer y gymuned a’r gwahaniaeth y gall unigolion ymroddgar ei wneud. Wrth iddyn nhw barhau i ddatblygu ac addasu i gwrdd ag anghenion, mae gweledigaeth Claire a Paul o gymuned heb wastraff a newyn yn dod yn agosach i gael ei gwireddu..

cyfryngau cymdeithasol:

  • Facebook
  • Neighbourly

cyfryngau cymAm ragor o wybodaeth neu i wneud cyfraniad, cysylltwch âdeithasol:

Paul and Claire Marshall
Cwpwrdd Bwyd yr Orsedd
rossettfoodcupboard@gmail.com

Rhannu
Erthygl flaenorol Erlas Agoriad Swyddogol Gardd Synhwyraidd newydd yng Ngardd Furiog Fictoraidd Erlas
Erthygl nesaf Nant Mill Diwrnod Hwyl a Ras Hwyaid Melin y Nant

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English