Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Agoriad Swyddogol Gardd Synhwyraidd newydd yng Ngardd Furiog Fictoraidd Erlas
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Agoriad Swyddogol Gardd Synhwyraidd newydd yng Ngardd Furiog Fictoraidd Erlas
Y cyngorPobl a lle

Agoriad Swyddogol Gardd Synhwyraidd newydd yng Ngardd Furiog Fictoraidd Erlas

Diweddarwyd diwethaf: Medi 5, 2024 4:34 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Erlas
RHANNU

Bydd yr ardd synhwyraidd newydd yng Ngardd Furiog Fictoraidd Erlas yn cael ei hagor yn swyddogol ar 18 Medi am 11am. Mae croeso i bawb grwydro’r ardd synhwyraidd newydd sbon.

Mae’r gofod newydd a deniadol hwn wedi’i leoli ychydig y tu allan i waliau hanesyddol yr ardd furiog Fictoraidd wreiddiol. Mae llwybr troellog sy’n eich arwain drwy nifer o welyau blodau hardd, wedi’u dylunio i ddeffro’r synhwyrau.

Bydd yr ardd yn cael ei hagor gan y Maer, y Cynghorydd Beryl Blackmore ac un o weithwyr Gardd Furiog Fictoraidd Erlas, Ellie Evans

Beth yw gardd synhwyraidd Erlas?

Mae’r ardd synhwyraidd yn caniatáu i ymwelwyr fwynhau amrywiaeth o brofiadau, fel lliwiau hardd gwelyau blodau, arogleuon yr holl blanhigion a naws y dail gwahanol sy’n chwarae â’r holl synhwyrau.

Mae’r prosiect wedi cynnwys adeiladu gwelyau uchel, llwybrau hygyrch i gadeiriau olwyn, mannau compost newydd a nodweddion synhwyraidd fel clychau gwynt a ffynhonnau dŵr.

Mae croeso i bawb ymweld â Gardd Furiog Erlas ar gyfer yr agoriad swyddogol. Fe’ch croesewir i’r ardd gyda lluniaeth am 11am, a bydd seremoni torri’r rhuban yn dechrau am 11.15.

I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad neu am ein prosiectau eraill, anfonwch e-bost at: localplacesfornature@wrexham.gov.uk

Dywedodd y Maer, y Cynghorydd Beryl Blackmore, “Rwy’n edrych ymlaen at ymweld â’r prosiect hwn ac at brofi’r ardd synhwyraidd drosof fy hun. Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r gwaith i ddod â’r ased ychwanegol hwn i’r ardal, ac am fy ngwahodd i fod yn rhan o’r seremoni agoriadol. Rwy’n siŵr y daw â llawer o bleser i lawer yn y dyfodol.”

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd, “Mae croeso mawr i’r ardd hygyrch hon ac mae’n ychwanegiad gwych i Brosiect Gardd Furiog hardd Erlas. Da iawn i bawb a fu’n rhan o’r prosiect.”

Ariannwyd y gwaith gan gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, a’r nod yw gwella mannau gwyrdd a mynediad pobl i fyd natur ar draws Wrecsam.

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Tŷ Pawb i ddangos gemau Cynghrair y Cenhedloedd Cymru

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Rhannu
Erthygl flaenorol fêps Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwared ar fêps mewn ffordd gyfrifol
Erthygl nesaf Dim Gwastraff, Platiau Llawn: Tu Mewn i Genhadaeth Cwpwrdd Bwyd Rossett Dim Gwastraff, Platiau Llawn: Tu Mewn i Genhadaeth Cwpwrdd Bwyd Rossett

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English