Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen O Belydrau’r Haul i Hamdden: Canolfannau Hamdden Wrecsam yn Tywynnu’n Llachar gyda Datblygiadau Ynni, Gan Baratoi’r Ffordd am Ddyfodol Gwyrddach
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > O Belydrau’r Haul i Hamdden: Canolfannau Hamdden Wrecsam yn Tywynnu’n Llachar gyda Datblygiadau Ynni, Gan Baratoi’r Ffordd am Ddyfodol Gwyrddach
Y cyngorDatgarboneiddio Wrecsam

O Belydrau’r Haul i Hamdden: Canolfannau Hamdden Wrecsam yn Tywynnu’n Llachar gyda Datblygiadau Ynni, Gan Baratoi’r Ffordd am Ddyfodol Gwyrddach

Diweddarwyd diwethaf: Medi 16, 2024 11:33 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Leisure Centres
RHANNU

Mae canolfannau hamdden yn Wrecsam sy’n cael eu gweithredu gan Freedom Leisure, wedi gwneud mesurau arbed ynni yn ddiweddar a fydd yn arbed swm enfawr o 69 tunnell o Allyriadau Carbon yn flynyddol. Mae hyn yn hafal â char yn gyrru 261,500 milltir, sef o Wrecsam i Hollywood 50 o weithiau bob blwyddyn!

Ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, cafodd effeithlonrwydd ynni ei ddynodi a’i weithredu ar draws y canolfannau hamdden gan ddarparu arbedion ariannol a charbon am flynyddoedd i ddod. Ymhlith y blaenoriaethau:

  • Paneli solar ffotofoltaig a gosodiadau batri yn Gwyn Evans, Y Waun a Queensway.
  • Arloeswyr mewn gwell triniaeth o aer ac ymhlith y canolfannau hamdden cyntaf ledled y DU i osod ffaniau dad-haeniad yn Gwyn Evans, Byd Dŵr, a’r Waun
  • Gwell gorchuddion pwll yn Gwyn Evans, Y Waun, Byd Dŵr, Clywedog a Rhosnesni
  • Uwchraddio pwmpiau cylchrediad pwll yng Nghlywedog a Rhosnesni, gydag amrywiol yriant cyflymder sy’n golygu y gallant redeg ar gyflymder arafach
  • Uwchraddio goleuo LED ar y maes chwarae 3G ym Morgan Llwyd

Cafodd y mesurau arbed ynni sylweddol hyn yn Wrecsam eu cefnogi gan Chwaraeon Cymru a Rhaglen Gydweithredu Cymru ar Asedau gyda thros hanner miliwn o bunnoedd o fuddsoddiad, yn arwain at arbediad blynyddol o dros 223,000kW o drydan a 106,000kW o nwy.

Dywedodd Brian Davies, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru: “Mae’r argyfwng costau byw, ar y cyd â’r argyfwng hinsawdd, yn ei gwneud yn fwy pwysig nag erioed i fuddsoddi mewn cyfleusterau canolfannau hamdden sy’n cael eu gwerthfawrogi gymaint gan y cymunedau yn maen nhw’n eu gwasanaethu.

“Bydd pob un o’r mesurau hyn yn lleihau costau rhedeg hir dymor yn sylweddol mewn cyfleusterau hamdden ledled Wrecsam, ac yn eu galluogi i fod yn fwy cynaliadwy yn ariannol gan barhau i ddarparu gweithgareddau fforddiadwy i bobl leol.”

“Greu canolfannau hamdden cynaliadwy”

Dywedodd Angela Brown, Pennaeth Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd yn Freedom Leisure “Mae ein hymrwymiad at effeithlonrwydd ynni yn ganolog i’n cenhadaeth o greu canolfannau hamdden cynaliadwy ac arwain drwy esiampl ochr yn ochr â’n partner, y cyngor. Wrth optimeiddio ein defnydd o ynni, rydym ni’n sicrhau bod ein cyfleusterau’n cynhyrchu llai o garbon, gan ddyfod yn fwy cost effeithlon ac wedi eu halinio â dyfodol gwyrddach”

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Datgarboneiddio:, “Mae hwn yn gynnydd sylweddol i sicrhau bod ein hagenda datgarboneiddio yn mynd rhagddo’n rhwydd. Lleihau ein hôl-troed carbon yw un o’n blaenoriaethau corfforaethol ac rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfranogi at weld y prosiect hwn yn dwyn ffrwyth.”

Nid yw Freedom Leisure, sef un o ymddiriedolaethau hamdden nid er elw elusennol arweiniol sy’n gweithredu 120+ lleoliad hamdden a diwylliannol ledled y DU, yn rhoi’r gorau iddi yn y fan honno! Mae gwelliannau pellach wedi cael eu cynllunio dros y flwyddyn a ddaw sy’n dod i chwarter miliwn o bunnoedd o fuddsoddiad mewn gwelliannau pellach yn Wrecsam yn unig.

Mae’r gwelliannau lleol hyn, a’r rhai a wnaed mewn mannau pellach i ffwrdd ledled y DU i gyd yn cyfrannu tuag at nod Freedom Leisure o ddyfod yn Sero Net erbyn 2030 gan sicrhau y byddant yn gallu parhau i wella bywydau drwy hamdden am flynyddoedd maith i ddod

Leisure Centres
O Belydrau’r Haul i Hamdden: Canolfannau Hamdden Wrecsam yn Tywynnu’n Llachar gyda Datblygiadau Ynni, Gan Baratoi’r Ffordd am Ddyfodol Gwyrddach
Leisure Centres

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Grant Cymunedol Wrecsam Egnïol – hyd at £1,000 ar gael!

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

TAGGED:decarbonisationEnergy Efficiencywrexham
Rhannu
Erthygl flaenorol Cynnyrch mislif (pad mislif wedi’i agor, wedi’i amgylchynu gan badiau mislif heb eu hagor) Ble i ddod o hyd i gynnyrch mislif am ddim yn Wrecsam
Erthygl nesaf Mwy o gynnydd ar gyfer Amgueddfa Dau Hanner newydd Wrecsam Mwy o gynnydd ar gyfer Amgueddfa Dau Hanner newydd Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Meet the Supertrees event
Pobl a lleDatgarboneiddio WrecsamDigwyddiadau

Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English