Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Bwyd iach i ysgolion
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Bwyd iach i ysgolion
Busnes ac addysg

Bwyd iach i ysgolion

Diweddarwyd diwethaf: Mai 22, 2025 11:46 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Bwyd iach i ysgolion
RHANNU

Mae’r bwyd sy’n gallu cael ei weini mewn ysgolion yn newid fel bod gan bob plentyn yng Nghymru gyfle i fwyta deiet cytbwys yn yr ysgol.

Mae ymgynghoriad wedi lansio i geisio barn ar y cynigion a fydd yn gweld bwydlenni ysgolion cynradd yn cynyddu ffrwythau a llysiau, gan helpu mwy o blant Cymru i gael eu pump y dydd, a chyfyngu ar bwdinau siwgr a bwydydd wedi’u ffrio, yn unol â chanllawiau deietegol y DU.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Bydd y cynigion newydd yn sicrhau bod plant yn cael cynnig bwyd a diod ysgol sy’n gytbwys o ran maeth, a bod bwyta’n iach yn cael ei hyrwyddo mewn ysgolion gyda’r nod o wella iechyd, lles a chyrhaeddiad.

Mae’r dystiolaeth yn dangos bod plant, ar gyfartaledd, yn bwyta gormod o siwgr ac nad ydynt yn bwyta’r symiau a argymhellir o ffrwythau, llysiau a grawn cyflawn. Mae hyn yn cyfrannu at broblemau iechyd fel gordewdra plentyndod ac ar hyn o bryd mae un o bob pedwar o blant oedran derbyn yn cael ei gategoreiddio fel bod dros bwysau neu’n ordew.

Mae camau’n cael eu cymryd ar draws Llywodraeth Cymru i wneud y dewis iach yn ddewis hawdd. Roedd strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach yn ei gwneud yn ymrwymiad i Llywodraeth Cymru adolygu’r rheoliadau ar faeth bwyd mewn ysgolion sy’n berthnasol ym mhob ysgol a gynhelir yng Nghymru. Nawr bod cyflwyno prydau ysgol cynradd cyffredinol am ddim yng Nghymru wedi’i gwblhau, mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni’r ymrwymiad hwn, gan ddechrau gydag ysgolion cynradd.  

Dywedodd ysgrifennydd y cabinet dros addysg, Lynne Neagle: “Mae maeth da yn hanfodol i helpu pobl ifanc i berfformio ar eu gorau – boed hynny yn yr ystafell ddosbarth, ar y cae neu wrth fynd ar drywydd eu nodau. Bydd ein newidiadau ar sail tystiolaeth i reolau bwyd ysgol yn helpu i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant Cymru wrth gefnogi cynhyrchwyr o Gymru a meithrin cenhedlaeth o fwytawyr iach i ddiogelu dyfodol ein GIG. 

“Mae ysgolion a thimau arlwyo ledled Cymru eisoes yn gweithio’n galed i ddarparu prydau maethlon i’n plant a’n pobl ifanc. Rydym am adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn digwydd i sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru gyfle i gael bwyd iach. Dyna pam rydw i eisiau clywed gan rieni, athrawon, cyflenwyr a phobl ifanc. Trwy weithio gyda’n gilydd, rydym yn gallu creu safonau bwyd ysgol sy’n gweithio i bawb – gan gefnogi iechyd ein plant heddiw ac ar gyfer eu dyfodol.”

Dywedodd Rachel Bath, ymgynghorydd iechyd y cyhoedd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu’r cynigion hyn ar gyfer ysgolion cynradd. Rydym yn gwybod o’r dystiolaeth bod safonau bwyd ysgol yn gallu effeithio’n gadarnhaol ar iechyd a lles plant pan gaiff eu defnyddio ar y cyd ag amrywiaeth o ddulliau. Mae cryfhau’r Rheoliadau hyn yn gam hanfodol i sicrhau bod bwyd ysgol yn cefnogi arferion bwyta iach gydol oes. Rydym yn gwybod bod gwaith i’w wneud i roi cyfle i bob plentyn gael prydau maethlon ynghyd ag addysg bwyd a phrofiadau bwyta cadarnhaol. Yn ogystal â chefnogi iechyd plant, mae’r newidiadau hyn yn cyfrannu at system fwyd ac economi leol fwy cynaliadwy. Gyda chydweithrediad parhaus a goruchwyliaeth glir, mae bwyd ysgol yn gallu bod yn sbardun pwerus i iechyd a lles hirdymor yng Nghymru.”

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Mae gwelliannau iach i fwydlen yr ysgol yn cael eu croesawu’n fawr, felly byddwn yn annog pawb i rannu eu barn trwy gyfrannu at yr ymgynghoriad. Rydym yn gwybod bod teimlo’n llwglyd yn yr ysgol yn effeithio ar berfformiad dysgwyr, felly mae cyflwyno’r Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd wedi bod yn llwyddiant mawr wrth fynd i’r afael â’r mater hwn. Gwelliannau pellach i werth maethol y prydau hyn yw’r cam nesaf i sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i fwyta bwyd iach, yn hytrach nag unrhyw fath o fwyd yn unig.”

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl y Banc.. Newidiadau i gasgliadau biniau yr wythnos nesaf oherwydd dydd Llun Gŵyl y Banc (26 Mai)
Erthygl nesaf Dyma pam y bydd craen ar Sgwâr y Frenhines ddydd Mawrth nesaf... Dyma pam y bydd craen ar Sgwâr y Frenhines ddydd Mawrth nesaf…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026
Water
Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr
Arall Fideo
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Groundwork
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Eisiau dysgu rhywbeth newydd? Mae disgwyl i Groundwork Gogledd Cymru ddarparu dosbarthiadau dysgu cymunedol AM DDIM ar draws Wrecsam a Sir y Fflint

Gorffennaf 22, 2026
Bethan, Noah a Gill
Busnes ac addysg

“Gwasanaeth ymroddedig i blant, teuluoedd a staff” – athrawes sydd wedi gwasanaethu am 43 mlynedd yn ymddeol

Gorffennaf 20, 2026
Youth Services Survey - young peope
Busnes ac addysgPobl a lle

Cwblhewch ein harolwg a helpwch i lunio dyfodol gwasanaethau ieuenctid yn Wrecsam

Gorffennaf 9, 2026
Ysgol Clywedog wedi'i symud o’r rhestr mesurau arbennig yn dilyn adroddiad cadarnhaol gan Estyn
Busnes ac addysg

Ysgol Clywedog wedi’i symud o’r rhestr mesurau arbennig yn dilyn adroddiad cadarnhaol gan Estyn

Gorffennaf 6, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English