Mae Cyngor Wrecsam yn falch o rannu canfyddiadau ei Asesiad Perfformiad Panel (APP) cyntaf erioed – gan dynnu sylw at gryfderau a chyfleoedd ar gyfer gwella.
Mae bellach yn ofynnol i bob un o’r 22 cyngor yng Nghymru gael APP o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).
Mae’r adolygiadau annibynnol yn cael eu goruchwylio gan uwch ffigurau ac arbenigwyr o awdurdodau lleol eraill, yn ogystal â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).
Y nod yw helpu cynghorau i ddeall pa mor dda maent yn perfformio, gyda phwyslais ar ddarparu gwasanaethau yn effeithiol, defnyddio adnoddau’n ddoeth, a chynnal llywodraethu cryf.
Roedd asesiad Wrecsam, a gynhaliwyd ym mis Ebrill, yn cynnwys ymgysylltu helaeth â chynghorwyr, swyddogion a rhanddeiliaid, ac mae’r Cyngor yn ddiolchgar i bawb a gymerodd ran mewn gweithdai a chyfweliadau.
Mae’r Cyngor bellach wedi derbyn yr adroddiad terfynol, sy’n tynnu sylw at nifer o gryfderau ar draws y sefydliad, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer gwella ymhellach. Mae’r canfyddiadau allweddol yn cynnwys:
Cyflawni swyddogaethau craidd yn effeithiol
Er gwaethaf rhai heriau lleol parhaus, ni chanfu’r panel unrhyw bryderon sylweddol ynghylch gallu’r Cyngor i ddarparu ei brif wasanaethau.
Defnydd effeithlon o adnoddau
Mae’r Cyngor yn rheoli ei adnoddau’n effeithiol yn wyneb pwysau ariannol a demograffig, ond anogodd y panel eglurder pellach ac aliniad rhwng ei raglen trawsnewid (moderneiddio) a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC).
Sylfeini llywodraethu cryf
Mae’r trefniadau llywodraethu disgwyliedig ar waith, ond mae’r meysydd i’w gwella yn cynnwys cryfhau rôl cynghorwyr a phwyllgorau craffu, a pharhau i wella perthnasoedd rhwng cynghorwyr a swyddogion.
Canolbwyntiodd yr adroddiad hefyd ar ddau faes allweddol:
Diwylliant ac arweinyddiaeth sefydliadol
Mae angen i’r cynghorau barhau i ymgorffori eu gwerthoedd a’u hymddygiadau ar draws y sefydliad, ac mae angen mwy o waith i egluro rolau a chyfrifoldebau – yn enwedig ar lefelau uwch.
Gweithio mewn partneriaeth i reoli’r galw
Mae dull cydweithredol Wrecsam o reoli pwysau a achosir gan y galw yn gweithio’n dda ac yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol i bobl leol.
Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys wyth argymhelliad. Mae’r Cyngor wedi bod yn datblygu ymateb i’r argymhellion hyn, i esbonio sut y bydd yn bwrw ymlaen â nhw.
Bydd yr ymateb hwn yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 18 Medi, gyda’r fersiwn derfynol i’w chytuno gan y Cyngor Llawn ym mis Rhagfyr.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae’r asesiad hwn yn garreg filltir bwysig yn ein hymrwymiad parhaus i dryloywder, gwelliant a chyflawni’r canlyniadau gorau posibl i bobl Wrecsam.
“Rydym yn croesawu’r canfyddiadau a byddwn yn eu defnyddio i lunio ein dyfodol, fel y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau o safon i gymunedau lleol.”