Rydym yn gwybod bod y risg, a’r ofn, o syrthio wrth i ni fynd yn hŷn yn rhywbeth a all gael effaith sylweddol ar ein hiechyd a’n lles.
Ond nid yw hyn ym ymwneud â phobl hŷn yn unig, mae yna nifer o gyflyrau iechyd sydd, ar unrhyw oedran, yn gallu golygu bod y risg o syrthio yn cynyddu.
Ddydd Iau, 18 Medi, 10am-12pm, bydd yr Hwb Lles yn Wrecsam a BIPBC yn cynnal digwyddiad atal cwympiadau, ochr yn ochr â sefydliadau eraill, gan gynnwys Vision Support, yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, Age Connects a Gofal a Thrwsio Gogledd-ddwyrain Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion: “Yng Nghymru a Lloegr gyda’i gilydd, amcangyfrifir bod rhwng 230,000 a 460,000 o bobl dros 60 oed yn syrthio bob blwyddyn, ac mae’r digwyddiad hwn yn anelu at roi’r wybodaeth sydd ei hangen i chi, i leihau’r risg.
“Byddwn yn argymell unrhyw un, o unrhyw oedran, sy’n poeni am eu hunain, neu anwylyd, yn syrthio a’r effaith y gall ei gael ar eu hiechyd ddod i’r digwyddiad hwn. Bydd digon o gyngor ar gael yn ogystal ag arddangosiadau o sgwteri symudedd a dyfeisiau RITA (Gweithgareddau Therapi Rhyngweithiol a Chofio/Adfer) (a ddefnyddir i gefnogi’r rheini sy’n byw gyda dementia).”