Peidiwch â cholli eich pleidlais – nawr yw’r amser i wirio’ch manylion cofrestru etholiadol neu beryglu colli’ch cyfle i bleidleisio ar benderfyniadau sy’n effeithio arnoch chi.
Mae’r canfasio blynyddol yn caniatáu i Gyngor Wrecsam gadw’r gofrestr etholiadol yn gyfredol, i nodi pwy sydd mewn perygl o golli eu llais mewn etholiadau, a’u hannog i gofrestru cyn ei bod hi’n rhy hwyr.
Gydag etholiadau i’r Senedd yn cael eu cynnal ym mis Mai 2026, mae’r canfasio blynyddol yn amser da i wneud yn siŵr y byddwch chi’n gallu cymryd rhan.
Dywedodd Alwyn Jones, swyddog canlyniadau Cyngor Wrecsam: “Cadwch lygad am ddiweddariadau pwysig gan Gyngor Wrecsam yma ac ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol. Y canfasio blynyddol yw ein ffordd o sicrhau bod y wybodaeth ar y gofrestr etholiadol am bob cyfeiriad yn gywir ac yn gyfredol. Er mwyn sicrhau nad ydych chi’n colli’ch llais mewn unrhyw etholiadau sydd i ddod yng Nghymru, dilynwch y cyfarwyddiadau a anfonwyd atoch chi.
“Os nad ydych chi wedi’ch cofrestru ar hyn o bryd, ni fydd eich enw’n ymddangos yn y diweddariadau a anfonwn. Os ydych chi am gofrestru, y ffordd hawsaf yw ar-lein ar https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.”
Yn benodol, anogir y rheini sydd wedi symud cartref yn ddiweddar i wirio eu manylion, gan eu bod nhw’n llai tebygol o fod wedi’u cofrestru na’r rhai sydd wedi byw yn yr un cyfeiriad ers amser maith. Yng Nghymru, bydd 95% o’r rhai sydd wedi byw yn eu cartref ers 16 mlynedd wedi eu cofrestru, o’i gymharu â 53% o bobl sydd wedi byw mewn cyfeiriad am lai na dwy flynedd.
Yr etholiad nesaf y byddwch chi’n gallu pleidleisio ynddo yw etholiad y Senedd ar 7 Mai, 2026. Ar hyn o bryd, mae gan Wrecsam ddau AS a phedwar aelod rhanbarthol. Mae etholiadau yn digwydd bob pum mlynedd ac, ar hyn o bryd, pan fyddwch chi’n pleidleisio yn etholiadau’r Senedd, mae gennych chi ddwy bleidlais – un i ethol eich aelod etholaethol ac un i ethol eich aelod rhanbarthol. Yn 2026, bydd hyn yn newid… cymerwch olwg ar dudalen we Llywodraeth Cymru ar newidiadau i’r Senedd i gael rhagor o wybodaeth.
Mae gwybodaeth am gofrestru i bleidleisio ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am eich statws cofrestru, gallwch anfon e-bost at y tîm gwasanaethau etholiadol yn electoral@wrexham.gov.uk.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.