Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae data twristiaeth blynyddol 2024 ar gyfer Cymru yn datgelu bod Sir Wrecsam wedi profi blwyddyn gref arall o dwf
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Mae data twristiaeth blynyddol 2024 ar gyfer Cymru yn datgelu bod Sir Wrecsam wedi profi blwyddyn gref arall o dwf
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Mae data twristiaeth blynyddol 2024 ar gyfer Cymru yn datgelu bod Sir Wrecsam wedi profi blwyddyn gref arall o dwf

Diweddarwyd diwethaf: Medi 23, 2025 2:56 pm
Rhannu
Darllen 8 funud
Mae data twristiaeth blynyddol 2024 ar gyfer Cymru yn datgelu bod Sir Wrecsam wedi profi blwyddyn gref arall o dwf
RHANNU

Mae data twristiaeth blynyddol 2024 ar gyfer Cymru yn datgelu bod Sir Wrecsam wedi profi blwyddyn gref arall o dwf, gyda thwristiaeth bellach yn cyfrannu £191m y flwyddyn at economi Sir Wrecsam, twf o 6.3% flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Mae’r Data STEAM blynyddol (y mae ardaloedd Awdurdodau Lleol ledled y DU yn eu defnyddio’n gyffredin i fesur perfformiad twristiaeth) yn dangos bod adfywiad Wrecsam yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar yr economi.  Yn ogystal, dros y degawd diwethaf, bu twf enfawr o 90% yn y sector twristiaeth – y cryfaf yng Nghymru, sy’n dangos datblygiad y Sir fel cyrchfan hamdden a busnes cystadleuol. 

Yn 2024, roedd cyfanswm nifer yr ymwelwyr (i atyniadau a lleoedd i aros yn Sir Wrecsam) yn mesur 2.07m (cynnydd o 1.1%).  O’r rhain, daeth 1.63m [79% o’r holl ymwelwyr] am y diwrnod yn unig, tra bod 440,000 [21% o’r holl ymwelwyr] wedi aros am un noson neu fwy.

Er gwaethaf y ffigurau cadarnhaol hyn, cynyddodd arosiadau dros nos 0.5% yn unig o 2023, gydag awgrymiadau unwaith eto yn adlewyrchu’r galw am ystod ehangach o leoedd gwely a’r cyfleoedd ar gyfer twf a buddsoddiad pellach yn y maes hwn.

Yn ogystal â gwariant ymwelwyr, cyfanswm nifer y swyddi llawn amser a gynhaliwyd gan y sector oedd 1,729 – gostyngiad bach o 1.6% flwyddyn ar ôl blwyddyn, efallai yn adlewyrchu oriau gweithredu byrrach i rai busnesau lletygarwch, patrymau gweithio mwy hyblyg a rhai prinder sgiliau mewn lletygarwch.

Canmolodd yr Aelod Arweiniol dros yr Economi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, y Cynghorydd Nigel Williams wydnwch busnesau lletygarwch lleol a diolchodd iddynt am eu gwaith cadarnhaol i dyfu’r sector;

“Mae data twristiaeth cadarnhaol 2024 unwaith eto yn dyst i waith caled ac ymrwymiad ein busnesau lletygarwch a’n gwytnwch i barhau i ddarparu gwasanaeth gwych, er gwaethaf yr heriau sy’n wynebu’r sector.

Yn naturiol, mae Wrecsam wedi elwa mwy o ymwelwyr tramor yn ystod y blynyddoedd diwethaf diolch i’r sylw a roddwyd gan y rhaglen ddogfen a llwyddiant Clwb Pêl-droed Wrecsam ar y cae. Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi bod yn gweithio’n galed gyda phartneriaid yn Croeso Cymru a This is Wrecsam i dyfu ein marchnadoedd ymwelwyr drwy gysylltu’n agos â gweithredwyr teithio a manteisio ar y cyfle i arddangos llawer o atyniadau ehangach Sir Wrecsam sydd gennym ni.

Heddiw mae gennym ystod eang o deithiau grŵp ar gael, gan gynyddu entrepreneuriaeth a buddsoddiad yn y sector lletygarwch, ynghyd ag ystod amrywiol o atyniadau a digwyddiadau i bobl ymweld â nhw ac aros yn Wrecsam ar eu cyfer.  Unwaith eto, mae ein prif atyniadau fel Safle Treftadaeth y Byd Pontcysyllte 11 milltir UNESCO, Erddig a Chastell y Waun i gyd wedi cael blwyddyn gref i ymwelwyr ac maent yn parhau i fod yn rhai o atyniadau gorau’r DU.

Rwyf hefyd yn falch o weld datblygiad Wrecsam fel cyrchfan i ymwelwyr gyda buddsoddiad parhaus yng nghanol ein dinas, cynnal digwyddiadau mawr, ein cynllun cenhadon ochr yn ochr â buddsoddiad preifat y llynedd.  Mae rhywfaint o hyn yn mynd i’r afael â’n prinder llety dros nos gyda phrosiectau fel Boutique 33 ar y Stryd Fawr a lansiad gwesty aparthotel yr Old Registry ar Stryt Caer sydd ar ddod a fydd yn cadw mwy o’r gwariant ar dwristiaeth yn Wrecsam.  Yn yr un modd, bydd ailagor Amgueddfa Wrecsam y flwyddyn nesaf ochr yn ochr â Stori Brymbo yn rhoi hwb pellach i enw da Wrecsam fel cyrchfan ryngwladol gyda dau atyniad anhygoel newydd.

Mae’n bwysig ein bod yn adeiladu ar y sylfeini hyn i sicrhau bod ymwelwyr yn cael y profiad cyffredinol gorau posibl a sicrhau bod Wrecsam yn gadarn ar y map fel un o’r tlysau ym marchnad dwristiaeth y DU.”

Gydag atyniad newydd, mawr i ymwelwyr yn lansio yn 2026 yn Stori Brymbo, ychwanegodd y Prif Weithredwr Nicola Sawford;

“Rydyn ni’n paratoi ar gyfer lansiad mawr yma yn Stori Brymbo yn 2026 ac eisoes rydyn ni wedi dechrau croesawu unigolion a grwpiau ar deithiau “cipolwg”. Mae’r ymwelwyr hyn yn lleol, o’r rhanbarth a gweddill y wlad ac yn dechrau dod o bedwar ban byd i brofi ein coedwig ffosil 300 miliwn mlynedd oed.  Mae hynny hyd yn oed cyn i’r ganolfan ymwelwyr, y bwyty a’r ardal groeso newydd agor y flwyddyn nesaf!  Mae bod yn rhan o’r gymuned o atyniadau a chyrchfannau i ymwelwyr drwy This is Wrecsam wedi bod mor werth chweil wrth i ni sefydlu ein hunain ac wrth fynd ymlaen, rydym mor hapus i fod yn rhan o’r bennod gyffrous hon yn natblygiad twristiaeth Wrecsam, na allwn ond ei gweld yn parhau ymhellach er budd pawb yma yn y Sir. Rydym yn bwriadu gwneud ein rhan i yrru Wrecsam fel cyrchfan ar gyfer twristiaeth, rydym yn disgwyl 30,000 o ymwelwyr y flwyddyn yn Stori Brymbo a thrwy gysylltu â chyrchfannau eraill yn Sir Wrecsam gallwn annog arosiadau dros nos a phenwythnosau!”

Wrth siarad am y canlyniadau, dywedodd Cadeirydd Partneriaeth Twristiaeth This is Wrexham, Sam Regan;

“Rydym wrth ein bodd i adrodd blwyddyn arall o ffigurau twristiaeth cryf ar gyfer Wrecsam. Er bod diwydiant lletygarwch y DU yn ei gyfanrwydd yn wynebu hinsawdd economaidd heriol barhaus, mae Wrecsam yn y sefyllfa ffodus o wrthsefyll y duedd honno gyda chynnydd parhaus yn nifer yr ymwelwyr. Mae’r twf cadarnhaol hwn yn cefnogi ein diwydiant lleol, er ein bod yn gwybod nad yw’n llwyr liniaru’r heriau ehangach y mae ein busnesau yn eu hwynebu. Ar lawr gwlad, rydym yn sicr wedi teimlo’r effaith donnog, yn enwedig yng nghanol y ddinas yn ystod penwythnosau gemau, wrth i fwy o ymwelwyr rhyngwladol ddarganfod ein cyrchfan.

Eleni, diolch i ddyfarniad Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a chefnogaeth gan ein haelod-fusnesau, rydym yn gweithio’n agosach gyda Croeso Prydain a phartneriaid rhanbarthol eraill i roi Wrecsam ar fwy o deithiau teithio a lansio ymgyrchoedd marchnata cryfach. Rydym hefyd yn falch o fod wedi dyfarnu grantiau o £5,000 i £15,000 i 16 o weithredwyr lletygarwch lleol. Bydd y prosiectau twristiaeth cyffrous hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r economi leol ac yn ein helpu i gynnal y ffigurau hyn ymhell y tu hwnt i 2025.”

NODIADAU I OLYGYDDION

*Mae data STEAM yn acronym ar gyfer Model Asesu Economaidd Twristiaeth Scarborough, model a ddefnyddir gan 21 o’r 22 o Awdurdodau Lleol yng Nghymru sy’n deillio o ddata ymwelwyr blynyddol o lety ac atyniadau lleol, ochr yn ochr ag arolygon porth teithwyr cenedlaethol a gynhaliwyd mewn meysydd awyr, gorsafoedd rheilffordd a chyfweliadau ar lawr gwlad ledled Cymru.

**Mae Cennad Twristiaeth Wrecsam yn gyfres o fodiwlau ar-lein am ddim y gellir eu gwneud yn eich amser eich hun YMA 

Rhannu
Erthygl flaenorol gorau ar y goeden Arbed amser ac arian!
Erthygl nesaf Pontcysyllte aqueduct and canal Ffederasiwn Ysgolion Dyffryn Dyfrdwy – mae’r ymgynghoriad yn fyw

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 21, 2026
Gwersyllt
Dan sylw: Rôl cynghorydd
Y cyngor
Medi 21, 2026
Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg
Medi 18, 2026
Tennis o'r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref
Tennis o’r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
Tapio i mewn, tapio allan – Teithio’n haws ar y trên yn Wrecsam a'r cyffiniau
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Tapio i mewn, tapio allan – Teithio’n haws ar y trên yn Wrecsam a’r cyffiniau

Medi 17, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Crematorium
Y cyngor

Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan

Medi 16, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English