Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dan sylw: Rôl cynghorydd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Dan sylw: Rôl cynghorydd
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Diweddarwyd diwethaf: Medi 21, 2026 11:08 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Gwersyllt
RHANNU

Mewn sgyrsiau ar lawr gwlad, mae llawer o bobl yn aml yn mynegi teimladau fel “beth mae cynghorydd yn ei wneud go iawn?”, “ydyn nhw’n cael eu talu?”, “ydyn nhw’n cael eu cyflogi gan y cyngor neu wedi eu pleidleisio i’r rôl?” “Oes angen cymwysterau neu brofiad arnyn nhw i ddod yn gynghorydd?” ac yn y blaen.

Wel, pwrpas y darn hwn yw edrych yn fanylach ar rôl cynghorydd a’r cyfrifoldebau sydd ganddyn nhw o ran cynnal democratiaeth leol, cynrychioli pryderon trigolion lleol, a gwneud penderfyniadau am wasanaethau lleol.

Pwy sy’n fy nghynrychioli i?

Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mae’r awdurdod yn cynnwys 56 o gynrychiolwyr etholedig, pob un ohonyn nhw wedi’u pleidleisio gan drigolion y ward benodol mae’r cynghorydd yn ei chynrychioli.

Dim ond un cynrychiolydd etholedig sydd gan rai wardiau, tra bod gan wardiau eraill ddau neu dri yn dibynnu ar boblogaeth yr ardal benodol honno.

Y fformiwla fras yw tua 1 cynghorydd sir fesul 1,500 o drigolion. Gall hyn amrywio ychydig, ond bydd yn agos at y ffigwr hwnnw.

Ewch i’n gwefan i weld pwy yw eich cynghorydd lleol yn ôl ble rydych chi’n byw .

Yr elfen wleidyddol

Efallai y byddwch chi weithiau’n clywed “Ydy pob cynghorydd yn cynrychioli pleidiau gwleidyddol?” hefyd.

Ydy a nac ydy yw’r ateb i’r cwestiwn hwnnw… mae rhai yn gwneud, a rhai ddim.

Ar hyn o bryd, mae Cyngor Wrecsam yn cynnwys 23 o gynghorwyr annibynnol, 14 o’r Blaid Lafur, 7 o’r Ceidwadwyr, 7 o Blaid Cymru, 3 chynghorydd sydd heb alinio a 2 gynghorydd annibynnol blaengar sy’n ffurfio’r cyfanswm o 56 o gynghorwyr etholedig.

Pa mor aml y galla i bleidleisio dros y cynghorydd o’m dewis?

Mae etholiadau lleol ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru fel arfer yn digwydd ar ddydd Iau cyntaf mis Mai bob pum mlynedd ac mae disgwyl i’r etholiad nesaf gael ei gynnal ymhen ychydig fisoedd ddydd Iau 6 Mai 2027.

Os hoffech chi ddysgu mwy am bleidleisio neu am sut i gofrestru i bleidleisio, yna mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan.

Beth mae fy nghynghorydd yn ei wneud?

Mae pob cynghorydd lleol yn cael ei ethol i gynrychioli’r ward etholiadol mae’n ei gwasanaethu, ar ran y trigolion sy’n byw yn yr ardal benodol honno ar gyfer unrhyw fater mae Cyngor Wrecsam yn gyfrifol amdano.

Felly, os yw’n ymwneud â’ch biniau, gofal cymdeithasol, ysgolion, tai neu unrhyw wasanaeth arall sy’n cael ei ddarparu gan eich cyngor, yna bydd eich cynrychiolydd etholedig lleol yn gyfrifol am hynny.

Gellir dod o hyd i restr lawn o gyfrifoldebau’r Cyngor a dogfennau cysylltiedig ar wefan y Cyngor.

Gair i gloi gan uwch gynghorydd.

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Corfforaethol a Chwsmeriaid: – “Mae’n dda cael manteisio ar unrhyw gyfle i hyrwyddo mwy o ymwybyddiaeth o rôl cynrychiolydd etholedig lleol gan ei bod hi’n hanfodol bwysig ein bod ni’n parhau i chwalu rhwystrau wrth gael mynediad at ddemocratiaeth leol, yn creu mwy o ymwybyddiaeth gyhoeddus am swyddogaethau Cyngor Wrecsam ac, yn wir, yn cynyddu ymgysylltu â’n prosesau democrataidd.

“Byddwn i’n sicr yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn llywodraeth leol i ddysgu mwy ac efallai dod draw i rai o’n cyfarfodydd cyhoeddus neu eu gwylio nhw ar-lein.

“Mae democratiaeth leol ar gyfer pawb ac mae’n hanfodol ein bod ni’n gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd am rôl cynghorwyr a’r gwaith mae cynghorau yn ei wneud i gynrychioli a chefnogi cymunedau lleol.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf... Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Erthygl nesaf Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English