Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws

Diweddarwyd diwethaf: Medi 21, 2026 1:02 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
RHANNU

Mae buddsoddiad parhaus mewn trafnidiaeth gyhoeddus leol bellach wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar draws Wrecsam, wrth i’r defnydd o nifer o wasanaethau bws a ariennir gan y Cyngor barhau i dyfu.

Ers 2023, mae Cyngor Wrecsam wedi cymeradwyo £650,000 o gyllid i gefnogi gwasanaethau bws lleol ychwanegol, gan helpu i gyflwyno llwybrau newydd, ymestyn gwasanaethau gyda’r nos a chynnig teithiau ychwanegol ar y penwythnos.

Mae’r ffigurau diweddaraf, a gofnodwyd ddiwedd mis Awst 2026, yn dangos bod y gwasanaethau a gefnogir drwy’r buddsoddiad hwn bellach wedi sicrhau 220,575 o deithiau i deithwyr.

Mae nifer y teithwyr wedi cynyddu’n sylweddol, gan godi o 57,149 o deithiau yn 2024/25 i 91,797 yn 2025/25 – cynnydd o tua 61%.

Mae’r defnydd wedi parhau yn ystod y flwyddyn gyfredol, gyda 56,754 o deithiau wedi’u cofnodi rhwng mis Ebrill a diwedd mis Awst 2026.

Twf ar draws gwasanaethau lleol

Mae’r cynnydd cyffredinol yn cael ei adlewyrchu ar draws amrywiaeth o wasanaethau a gefnogir gan y Cyngor, gan gynnwys gwasanaethau gyda’r nos, ar y penwythnos ac ar lwybrau newydd.

Mae’r gwasanaeth gyda’r nos rhwng Wrecsam a’r Mwynglawdd wedi gweld twf arbennig o dda, tra bod gwasanaethau ar ddydd Sul ac ar Wyliau Banc sy’n gwasanaethu ardaloedd gan gynnwys Borras, Lôn Barcas, Pen-y-cae a Pharc Caia yn parhau i gynnig cysylltiadau pwysig i gymunedau y tu allan i oriau gweithredu arferol yn ystod yr wythnos.

Mae gwasanaethau mwy newydd hefyd yn denu teithwyr. Mae’r gwasanaeth o Wrecsam i Johnstown yn ystod y dydd, ynghyd â’r gwasanaeth bob awr sy’n gwasanaethu Moss a Lodge, ill dau wedi cael eu defnyddio’n barhaus ers iddyn nhw gael eu cyflwyno.

Mae’r ffigurau’n dangos nad yw’r galw wedi’i gyfyngu i un math penodol o daith, gyda theithwyr yn defnyddio gwasanaethau trwy gydol y dydd yn ogystal â gyda’r nos ac ar y penwythnos.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd, “Rydyn ni wedi parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau bws lleol oherwydd ein bod ni’n gwybod pa mor bwysig yw cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da i gymunedau ledled Wrecsam.

Mae’n galonogol iawn gweld nifer y teithwyr yn parhau i dyfu a mwy na 220,000 o deithiau wedi cael eu cefnogi trwy’r buddsoddiad hwn erbyn hyn.

Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys teithiau gyda’r nos, ar ddydd Sul ac ar Wyliau Banc, yn ogystal â chysylltiadau newydd a gwell i gymunedau ledled y fwrdeistref sirol.

Mae mwy y gallwn ni ei wneud bob amser, a byddwn ni’n parhau i weithio gyda gweithredwyr a’n partneriaid i wella’r rhwydwaith bysus lleol a gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn ymarferol i’n pobl.”

Adeiladu ar y buddsoddiad

Gyda nifer y teithwyr yn parhau i dyfu, bydd Cyngor Wrecsam yn parhau i weithio gyda gweithredwyr a phartneriaid i adeiladu ar y buddsoddiad sydd eisoes wedi’i wneud ac edrych ar ragor o gyfleoedd i wella gwasanaethau bws a chyfleusterau i deithwyr ledled Wrecsam.

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwersyllt Dan sylw: Rôl cynghorydd
Erthygl nesaf Horse Riders Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English