Mae gofalwyr maeth yn Wrecsam yn dathlu’r cyfraniad hanfodol y mae eu plant eu hunain yn ei chwarae yn y daith faethu.
Fel rhan o Wythnos Plant Gofalwyr Maeth (o Hydref 13-19), mae gofalwyr Maeth Cymru Wrecsam yn rhannu straeon am y ffordd mae eu plant wedi helpu i wneud i’r rhai sydd yn eu gofal deimlo’n hapusach, eu bod yn cael eu croesawu, yn fwy diogel ac yn cael eu caru.
Mae rhai pobl yn dweud bod yr effaith bosibl ar eu plant yn un o’r rhwystrau i fod yn ofalwr maeth, ond mae llawer o blant yn gweld manteision i fod yn rhan o deulu sy’n maethu. Gall gweld bywyd o safbwynt rhywun arall fod yn brofiad sy’n cyfoethogi a all helpu plentyn i ddysgu a datblygu fel unigolyn. Mae plant hefyd yn canfod eu bod yn gallu datblygu eu cysylltiadau eu hunain gyda phlant sy’n cael eu maethu yn eu cartref nhw.
Fel rhan o Wythnos Plant Gofalwyr Maeth, mae Maethu Cymru Wrecsam yn taflu goleuni ar blant gofalwyr maeth, y bobl ifanc sy’n chwarae rhan hanfodol wrth helpu plant mewn gofal i deimlo’n ddiogel, yn gartrefol a’u bod yn cael eu caru.
Rhannodd Millie, gofalwr maeth gyda Maethu Cymru Wrecsam ei myfyrdodau ar yr hyn y mae maethu fel teulu yn ei olygu mewn gwirionedd. Yn ei geiriau hi: “Unwaith, daeth un bach atom heb ddim. Roedd yn ansicr iawn ac yn ofnus. Rhoddodd fy mab ei hoff dedi iddo fynd i’r gwely, i anwesu. Roedd yn hyfryd iawn i weld. Gadawodd y bachgen bach i fynd at ei deulu am byth, gan fynd â’r tedi gydag o. Cymerodd fy mab gysur yn y ffaith bod y bachgen bach angen y tedi’n fwy nag o.”
Mae ei stori yn atgof pwerus bod maethu nid yn unig yn newid bywydau’r plant sy’n derbyn gofal, mae hefyd yn siapio calonnau a meddyliau’r plant sydd eisoes yn y cartref.
Darllenwch y blog llawn i glywed mwy o’i stori yma.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Walsh, aelod arweiniol y gwasanaethau plant a theuluoedd: “Mae maethu yn brofiad sy’n gallu effeithio ar deulu cyfan mewn ffordd sy’n newid bywydau. Mae gwybod eich bod wedi chwarae rhan yn newid bywyd person ifanc er gwell yn rhoi boddhad mawr. Mae hefyd yn ehangu profiad bywyd eich teulu eich hun trwy ddysgu empathi, caredigrwydd a derbyn i’ch plant.”
I gael gwybod mwy am ddod yn ofalwr maeth yng Wrecsam.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.