Ar 22 a 23 Hydref, bydd 4ydd EV Rally Cymru yn profi terfynau cerbydau trydan a chapasiti seilwaith cerbydau trydan mewn rhannau hardd o Gymru.
Ac eleni y newyddion mawr yw mai Wrecsam yw’r ddinas fydd yn lansio’r digwyddiad cyfan, sy’n golygu y gallwch chi ddod i weld dechrau’r digwyddiad sy’n cynnwys 50+ o gerbydau trydan.
Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mae Costelloes EV wedi chwarae rhan fawr wrth reoli, cynnal a thyfu rhwydwaith gwefru cerbydau trydan cyhoeddus y fwrdeistref. Y llynedd fe wnaethant noddi siecbwynt ar hyd llwybr EV Rally Cymru, ond eleni maen nhw wedi mynd gam ymhellach trwy noddi man cychwyn swyddogol rali 2025.
Yn y rali hon, bydd cerbydau trydan yn cael eu rhoi ar brawf mewn amodau go iawn ar ffyrdd Cymru, lle bydd timau’n teithio ar lwybrau prydferth a thrwy drefi llewyrchus, gan ymweld â lleoliadau hardd fel Ynys Môn, Sir Benfro a Chaerfyrddin.
Wedi’i noddi gan Trafnidiaeth Cymru, bydd y digwyddiad ffordd trydanol hwn yn tynnu sylw at y cynnydd rhyfeddol y mae Cymru yn ei wneud o ran trafnidiaeth lân ac ynni cynaliadwy.
Gan ganolbwyntio ar Ogledd a De-orllewin Cymru, bydd y digwyddiad yn arddangos pob agwedd ar y daith a sut y gall cerbydau trydan chwarae eu rhan wrth ddatgarboneiddio’r system drafnidiaeth.
Bydd y digwyddiad hefyd yn dangos sut mae argaeledd pwyntiau gwefru cerbydau trydan wedi gwella’n fawr. Yn Wrecsam mae nifer o bwyntiau gwefru ledled y fwrdeistref sirol… beth am gael golwg ar y map hwn i weld ble allwch chi wefru’ch car?
Dywedodd y Cynghorydd David Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd: “Mae cynnal dechrau’r EV Rally eleni yn newyddion gwych i Wrecsam ac yn ffordd wych o arddangos ein seilwaith cynyddol o bwyntiau gwefru cerbydau trydan ar draws y fwrdeistref sirol. Mae argaeledd y pwyntiau gwefru hyn yn cynyddu drwy’r amser – at ddefnydd ymwelwyr a phreswylwyr. Rwy’n gobeithio, trwy eu defnyddio i deithio ar hyd y wlad, y bydd yr EV Rally yn dangos i bawb bod cerbydau trydan yn ffordd ymarferol a chynaliadwy ymlaen.”
Dywedodd David Costelloe, rheolwr gyfarwyddwr Costelloes EV: “Rydyn ni wrth ein bodd i fod yn rhan o EV Rally Cymru unwaith eto, ac yn arbennig o falch o gynnal y man cychwyn swyddogol yma yn Wrecsam. Mae ein gwaith gyda’r cyngor yn ymwneud â chreu seilwaith gwefru dibynadwy, sy’n addas i’r dyfodol ac o fudd i drigolion ac ymwelwyr. Mae’r rali yn ffordd wych o arddangos y cynnydd sy’n cael ei wneud ledled Cymru, ac rydyn ni’n gyffrous i helpu i daflu goleuni ar Wrecsam fel arweinydd o ran mabwysiadu ac arloesi gyda cherbydau trydan.”
Mae EV Rally 2025 yn cael ei chynnal gan Greenfleet, ei noddi gan Trafnidiaeth Cymru a’i chefnogi gan Lywodraeth Cymru.
Swyddi a gyrfaoedd – gweithiwch i ni a bod yn rhan o’r stori.