Wrth i’r paratoadau ar gyfer Sul y Cofio a Diwrnod y Cadoediad barhau, dyma ragor o straeon arwrol i chi gan ein cymuned leol.
Mae ein gwasanaethau amgueddfa ac archifau yn meddu ar ddigonedd o wybodaeth am hanes milwrol Wrecsam. Heddiw, rydym yn ymweld â nhw eto i roi cipolwg arall ar y gorffennol.
Bywydau ben i waered
Ar ôl cyhoeddi’r rhyfel, newidiwyd bywydau’n sylweddol. Cafodd pobl gyffredin eu galw i wasanaethu dros eu gwlad. Mewn llawer o achosion, roedd hyn yn golygu bod eu llwybrau gyrfa wedi newid yn sylweddol.
Mae’r llun isod yn tynnu sylw at y ffaith hon. Roedd y tri dyn yn y llun i gyd yn gymeriadau adnabyddus o gwmpas Wrecsam ac roeddent yn gwasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol.
Ar y Chwith: A/C Billy Grourke – Roedd Billy yn dod o Acton ac roedd yn ddigrifwr adnabyddus ymhlith y cylchoedd pantomeim a chyngherddau. Fe’i cyflogwyd gan The Border Breweries Ltd fel teithiwr cyn iddo ymuno â’r Awyrlu Brenhinol.
Yn y Canol: A/C Albert Davies – Roedd Albert o Faesydre, Wrecsam, yn lanhawr ffenestri medrus cyn cofrestru gyda Gwirfoddolwyr wrth Gefn yr Awyrlu Brenhinol.
Ar y Dde: Roedd A/C Len Mullen – Roedd Len, hefyd o Faesydre, Wrecsam, yn berson poblogaidd yn yr ardal. Roedd yn adnabyddus fel asiant i’r Gymdeithas Yswiriant Gydweithredol.

Brodyr ar faes y gad
Yn ogystal â llwybrau gyrfa yn mynd i gyfeiriadau annisgwyl, fe wnaeth y rhyfel newid bywyd teuluol hefyd. Er bod rhai pobl yn cael eu gadael gartref tra bod eu hanwyliaid yn mynd dramor, roedd rhai teuluoedd yn gwasanaethu eu gwlad ochr yn ochr â’i gilydd.
Roedd gan Mr a Mrs Joseph Evans o Goed-poeth bedwar mab a oedd i gyd yn gwasanaethu yn y fyddin. Isod, mae llun o’r brodyr yn eu gwisgoedd.
Gwasanaethodd y Gynnwr Llewelyn Evans R.A. a’r Preifat Tecwyn Evans P.C. yn Lloegr. Gwasanaethodd y Ffiwsilydd Glyn Evans RWF a’r Ffiwsilydd Vaughan Evans RWF yn India.

Fel y tad y bydd y mab
Mae’r llun canlynol yn dangos y Swyddog Cyflenwi J. W. Fisher a’i fab A/B Richard Fisher a wasanaethodd yn y Llynges Frenhinol.
Tynnwyd y llun isod pan oedd y ddau ar wyliau gyda’i gilydd.
Roedd y pâr yn hanu o Llai a gwasanaethodd y Swyddog Cyflenwi Fisher yn y ddau Ryfel Byd ar ôl cofrestru i wasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn 17 oed. Mae ei rubanau yn cynnwys medalau Gwasanaeth Cyffredinol 1914, Buddugoliaeth a Gwasanaeth Hir.
Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd y Swyddog Cyflenwi Fisher yn bostmon yn ardaloedd Wrecsam a Llanfynydd. Roedd yn filwr wrth gefn a derbyniodd yr alwad i wasanaethu yn yr Ail Ryfel Byd yn ôl yn y Llynges Frenhinol.
Fe wnaeth un o’r llongau y gwasanaethodd y Swyddog Cyflenwi Fisher arnynt chwarae rhan yn symud milwyr Prydain a chynghreiriaid o Hoek van Holland, Calais, Dunkerque a Bologne. Disgrifiodd Fisher y broses o symud milwyr o Bologne fel “gwaith anodd iawn”.
Yn ddiweddarach, cymerodd ran yng ngoresgyniad Sisili a chynorthwyodd y Bumed Fyddin i lanio yn Salerno. Ei gwch oedd un o’r cyntaf i gyrraedd traethau Salerno a helpodd i sefydlu troedle i’r Bumed Fyddin ar dir yr Eidal.

Beth am weld a allwch chi ddod o hyd i straeon arwrol o’r rhyfel yn eich teulu? Mae gan ein gwasanaeth archifau ystafell chwilio newydd wedi’i lleoli yn llyfrgell Wrecsam. Mae ar agor yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Mercher.
Galwch heibio yn ystod eu horiau agor a gweld pwy allech chi ddod o hyd iddo yn eich coeden deulu.


