Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Hwyl Nadoligaidd ar y gweill wrth i Wrecsam oleuo ar gyfer y Nadolig
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Hwyl Nadoligaidd ar y gweill wrth i Wrecsam oleuo ar gyfer y Nadolig
Pobl a lleDigwyddiadau

Hwyl Nadoligaidd ar y gweill wrth i Wrecsam oleuo ar gyfer y Nadolig

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 10, 2025 12:55 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Christmas
RHANNU

Ddydd Sadwrn, Tachwedd 15, bydd Wrecsam yn cael ei goleuo â disgleirdeb Nadoligaidd wrth gynnau’r goleuadau Nadolig a chynnal gorymdaith lusernau yn y ddinas.

Cynnwys
  • Dod o hyd i’r anrheg berffaith
  • Strydoedd hudolus
  • Diweddglo Nadoligaidd

Gyda diwrnod llawn gweithgareddau i’r teulu cyfan, mae’r digwyddiad eleni yn addo bod yn ysblennydd. Mae’r digwyddiad yn cael ei gydlynu mewn cydweithrediad rhwng Cyngor Wrecsam, Canolfan Siopa Dôl yr Eryrod, Hosbis Tŷ Nightingale a Fair Event Management.

Dod o hyd i’r anrheg berffaith

Mae’r digwyddiadau ar gyfer y diwrnod yn dechrau ar Sgwâr y Frenhines o 12pm. Yma, bydd gan ymwelwyr ddigon o ddewis gydag amrywiaeth o stondinau marchnad artisan i’w chwilota.

Bydd anrhegion wedi’u crefftio’n lleol a’u gwneud â llaw ar gael, felly bydd dod o hyd i’r anrheg berffaith i’ch anwyliaid eleni yn hawdd.

Os yw’r holl siopa yn codi blys arnoch, mae gan y farchnad yr ateb i chi. Bydd danteithion, bwydydd a diodydd tymhorol hefyd ar gael i’w prynu.

Bydd perfformiadau ac adloniant byw Nadoligaidd yn mynd rhagddynt tra bydd ymwelwyr yn mwynhau dathliadau tymhorol.

Strydoedd hudolus

Am 4.30pm, bydd Gorymdaith Lusernau a Goleuadau Tŷ Nightingale yn ymgynnull ar Sgwâr y Frenhines, yn barod i ddod â golau a hud y Nadolig i’r strydoedd.

Anogir teuluoedd i helpu i fod yn rhan o’r orymdaith anhygoel hon wrth godi arian ar gyfer achos gwych trwy gofrestru eu plentyn i gerdded fel rhan o’r orymdaith er budd Tŷ Nightingale.

Mae’n costio £6 i’ch plentyn gymryd rhan ac mae oedolion sy’n cadw cwmni iddynt yn cael mynd am ddim. I gofrestru, ewch i wefan Hosbis Tŷ Nightingale.

Diweddglo Nadoligaidd

Draw yng Nghanolfan Siopa Dôl yr Eryrod am 5.30pm, bydd pobl yn ymgynnull ar gyfer y diweddglo mawreddog. Yma, bydd ymwelwyr yn gweld yr olygfa Nadoligaidd o gynnau’r goleuadau.

Bydd cerddoriaeth fyw yn chwarae yn y cefndir gyda llu o westeion anhygoel. Eleni, bydd seren y West End Kayleigh McKnight, Livin’ Joy, Urban Cookie Collective a Dene Michael o Black Lace i gyd yn camu i’r llwyfan i gadw’r parti i fynd.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol  dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth: “Mae’n hyfryd gweld digwyddiad gyda chymaint o hwyl i’n cymuned. Mae pobl o bob oedran yn sicr o gael amser gwych wrth godi arian ar gyfer un o’n helusennau lleol hanfodol. Rwy’n gobeithio y bydd pawb yn cael amser gwych ac rwy’n eich annog chi i gyd i ledaenu hwyl y Nadolig ar hyd ein strydoedd”.

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrecsam yn ystod y Rhyfel – Straeon ein harwyr lleol – Rhan dau Wrecsam yn ystod y Rhyfel – Straeon ein harwyr lleol – Rhan dau
Erthygl nesaf Cynhelir digwyddiad Rhuban Gwyn yn Nhŷ Pawb Cynhelir digwyddiad Rhuban Gwyn yn Nhŷ Pawb

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

surgery to waterloo
Cadwch y Dyddiad: 24 Medi
Digwyddiadau
Medi 16, 2026
Crematorium
Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan
Y cyngor
Medi 16, 2026
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella'r adeilad.
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella’r adeilad.
Pobl a lle
Medi 16, 2026
The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Datgarboneiddio WrecsamFideo

Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)

Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam

Medi 15, 2026
Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English