Yn ôl ym mis Chwefror, nododd Cyngor Wrecsam ddiffyg ariannol o £33.6 miliwn ar gyfer y blynyddoedd ariannol 2026/27 i 2028/29, a chytunodd ar Gynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) i edrych ar ffyrdd o fynd i’r afael ag ef.
Mae hyn yn dangos y bydd y ddwy flynedd nesaf yn parhau i fod yn heriol i lywodraeth leol. Mae hyn oherwydd bod y galw am wasanaethau ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed yn parhau i fod yn fwy nag unrhyw ddisgwyliad rhesymol am gyllid y gellir ei godi yn lleol, ynghyd â setliadau cyllid cenedlaethol nad ydynt yn mynd i’r afael â graddfa’r mater. Er enghraifft, mae’r cynnydd yn y galw a’r mathau o anghenion gwasanaeth ar gyfer plant – boed hynny’n ysgolion, addysg arbennig, gofal cymdeithasol neu drafnidiaeth – yn cyflwyno risg amlwg i sefydlogrwydd ariannol Wrecsam, a chynghorau eraill.
Bydd y cyngor yn parhau i liniaru risgiau ariannol ac yn ymdrechu i gynhyrchu cyllidebau cynaliadwy o fewn y cyd-destun heriol hwn.
I wneud hyn, bydd y cyngor yn parhau â’i raglen newid. Bydd y rhaglen newid hon yn allweddol i nodi opsiynau fel rhan allweddol o strategaeth y gyllideb a’r strategaeth darparu gwasanaethau dros y 2-3 blynedd nesaf.
Dyma le hoffem eich mewnbwn chi. Ar gyfer pob adran y cyngor, mae ein dull awgrymedig o ymdrin â’r heriau presennol wedi’i gynnwys yn ein harolwg sy’n fyw ar wefan ymgysylltu y cyngor Eich Llais Wrecsam; fel y gallwch chi, ein trigolion, roi gwybod i ni os ydych chi’n cytuno â’r ffordd rydyn ni’n meddwl y gallwn symud ymlaen.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, arweinydd y cyngor ac aelod arweiniol dros gyllid: “Hyd nes y bydd cydnabyddiaeth genedlaethol o sefyllfa ariannol llywodraeth leol, ac effaith ehangach y galw am ofal cymdeithasol, bydd cynghorau ledled Cymru yn parhau i fod mewn perygl o fod yn anghynaliadwy yn ariannol.
“Mae aelodau etholedig a swyddogion y cyngor yn gweithio gyda’i gilydd i ddod o hyd i ffyrdd mwy effeithlon a modern o ddarparu gwasanaethau, ond nid yw’n dasg hawdd.
“Mae’n bwysig ein bod yn clywed meddyliau trigolion Wrecsam ac arnyn nhw y bydd yn effeithio, a dyna pam rwy’n gofyn i gynifer o bobl â phosibl roi gwybod i ni eu meddyliau drwy’r porth ymgysylltu.”
Mae’r ymgysylltiad hwn ar agor tan Rhagfyr 7.
Gallwch ymweld ag Eich Llais Wrecsam i roi gwybod i ni eich meddyliau neu gallwch anfon e-bost i yourvoice@wrexham.gov.uk, ysgrifennu i yourvoicewrexham, Anecs y 3ydd Llawr, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY neu ffonio 01978 292270 i ofyn am gopi papur o’r ffurflen, gan gynnwys fformatau eraill fel braille.


