Os ydych chi’n 66 oed neu’n hŷn gydag incwm cyfyngedig, yna gallech chi fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn. Byddai hyn yn rhoi arian ychwanegol i chi bob wythnos. Bob blwyddyn mae yna aelwydydd cymwys sy’n colli allan, felly mae’n werth gwirio a allwch chi ei hawlio.
Os ydych chi’n adnabod rhywun arall a allai fod yn gymwys – rhowch wybod iddyn nhw!
Beth yw Credyd Pensiwn?
Budd-dal sy’n seiliedig ar brawf modd i bobl dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac sydd ar incwm isel. Mae Credyd Pensiwn yn ychwanegu at eich incwm i gyrraedd lefel gofynnol wythnosol.
Mae Credyd Pensiwn ar wahân i’ch Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch gael Credyd Pensiwn hyd yn oed os oes gennych incwm arall, cynilion neu fod yn berchen ar eich cartref eich hun.
Mae Credyd Pensiwn yn werth, ar gyfartaledd, £3,900 y flwyddyn.
Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n colli allan
Hyd yn oed os nad ydych chi’n meddwl y byddech chi’n gymwys, mae’n werth gwirio oherwydd:
- Gallwch hawlio hyd yn oed os ydych chi’n berchen ar eich cartref eich hun (ac efallai y byddwch chi hyd yn oed yn gymwys i gael help gyda’r llog ar eich morgais neu’r ffioedd gwasanaeth)
- Efallai y gallwch gael Credyd Pensiwn ychwanegol os ydych chi’n gofalu am rywun
- Efallai y gallwch gael Credyd Pensiwn ychwanegol os oes gennych anabledd – ac nid yw arian o fudd-daliadau anabledd fel PIP neu Lwfans Gweini yn cyfrif tuag at eich incwm
- Gallwch hawlio Credyd Pensiwn hyd yn oed os oes gennych gynilion – er y gallai’r swm a gewch fod yn is os oes gennych fwy na £10,000
Defnyddiwch y gyfrifiannell cyflym ar-lein i wirio cymhwysedd a faint y gallech ei gael.
Fel arall, gallwch hefyd ffonio ein Tîm Hawliau Lles a fydd yn gallu cyfrifo eich hawl i Gredyd Pensiwn yn gyflym ac yn hawdd (yn ogystal â’ch hawl i’r Budd-dal Tai a Gostyngiad yn y Dreth Gyngor). Gallant hefyd drafod unrhyw fudd-daliadau anabledd.
Beth arall y gallaf ei gael os byddaf yn hawlio Credyd Pensiwn?
Os cewch Gredyd Pensiwn gallwch hefyd gael help arall, fel:
- Help gyda chostau gwresogi drwy’r Cynllun Gostyngiad
Cartrefi Cynnes a Thâl Tywydd Oer - Budd-dal tai os ydych yn rhentu’r eiddo rydych yn byw ynddo
- Cymorth ar gyfer llog morgais os ydych yn berchen ar yr eiddo rydych chi’n byw ynddo
- Gostyngiad yn y Dreth Gyngor
- Trwydded deledu am ddim os ydych yn 75 oed neu’n hŷn
- Help gyda thriniaeth ddeintyddol y GIG, sbectol a chostau trafnidiaeth ar gyfer apwyntiadau ysbyty, os ydych chi’n cael math penodol o Gredyd Pensiwn
- Gostyngiad ar y gwasanaeth ailgyfeirio Post Brenhinol os ydych yn symud tŷ
Pryd y galla i ymgeisio?
Gallwch wneud eich cais hyd at 4 mis cyn i chi gyrraedd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch hefyd ôl-ddyddio hawliad am Gredyd Pensiwn am hyd at dri mis.
Sut ydw i’n gwneud cais?
Cam 1
Sicrhewch bod y wybodaeth ganlynol wrth law:
⦁ Rhif Yswiriant Gwladol
⦁ Gwybodaeth am unrhyw incwm, cynilion a buddsoddiadau sydd gennych
⦁ Manylion banc
Cam 2
Ewch i gov.uk/credyd-pensiwn i wneud cais ar-lein.
Fel arall, gallwch ffonio llinell gais Credyd Pensiwn ar 0800 99 1234.
Cam 3
Fe’ch hysbysir drwy’r post pan fydd eich cais wedi’i asesu.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: Cartrefi a busnesau – grantiau ar gyfer boeler newydd


