Mae gwaith yn cael ei wneud dros yr wythnosau nesaf i osod pwyntiau gwefru cerbydau trydan ym maes parcio llyfrgell canol y ddinas.
Bydd rhywfaint o darfu cyfyngedig ar y baeau agosaf at Ffordd Caer ym maes parcio’r Llyfrgell er mwyn gallu gosod pwyntiau gwefru newydd gan gynnwys gwefrydd cyflym iawn ychwanegol.
Wrth i ni symud tuag at y gwaharddiad ar werthu cerbydau newydd sy’n cael eu pweru gan injan hylosgi mewnol yn 2030 a cherbydau Hybrid yn 2035, mae amrywiaeth o atebion posibl ar gyfer gwefru cerbydau trydan yn gyhoeddus a bydd y pwyntiau gwefru hyn yn gwella ein rhwydwaith o bwyntiau gwefru cyhoeddus o ansawdd uchel a dibynadwy ymhellach. Drwy ddefnyddio cyllid grant Llywodraeth Cymru i gefnogi pontio cyfiawn a pharatoi ar gyfer y dyfodol pan na fydd pobl yn cael prynu cerbydau wedi’u pweru gan injan hylosgi mewnol mwyach, rydym yn gwneud y newidiadau angenrheidiol i gefnogi ffordd wahanol o wneud pethau.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd: “Mae Cyngor Wrecsam eisiau sicrhau bod y seilwaith ar waith i gefnogi pobl gyda’r newid i gerbydau trydan, yn enwedig y rhai nad oes ganddynt fynediad at barcio oddi ar y ffordd, fel y gall pawb deimlo’n fwy hyderus wrth wneud y penderfyniad i newid nawr ac yn y dyfodol.
“Mae’r mannau ychwanegol hyn yn rhan o’r prosiect hwnnw, a byddwn yn parhau i weithio i gynyddu’r rhwydwaith gwefru cerbydau trydan yng nghanol y ddinas ac ardaloedd preswyl o amgylch y fwrdeistref sirol.”
Gostyngiad i drigolion Wrecsam
Oeddech chi’n gwybod y gall trigolion Wrecsam gael gostyngiad ar bwyntiau gwefru yn ein meysydd parcio?
Os hoffech ragor o wybodaeth ac i wneud cais am y gostyngiad, cysylltwch ag info@costelloes.co.uk.
Os ydych chi’n teimlo y byddai’ch ardal leol neu’ch stryd chi yn elwa ar wefrydd cerbydau trydan cyhoeddus, rhowch wybod i ni drwy e-bost i decarbonisation@wrexham.gov.uk a byddwn yn asesu eich cais i weld a yw’n addas.


