Mae’r wythnos hon yn Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth o Dwyll – cyfle i sôn am y pethau y gallwn ni i gyd eu gwneud yn y frwydr yn erbyn twyll.
Bob blwyddyn, mae twyll yn achosi gwerth miliynau o bunnoedd o niwed i sefydliadau ac unigolion ledled y DU, gan gynnwys cynghorau lleol.
Dydyn ni ddim yn gwybod yn union faint mae hyn yn ei gostio i drethdalwyr, ond gall twyll yn erbyn y sector cyhoeddus gael ei gyflawni gan bobl y tu mewn a thu allan i sefydliad, a gall gymryd sawl ffurf gan gynnwys:
- Seiberdroseddu.
- Hawliadau ffug am fudd-daliadau a grantiau.
- Anfonebu cynghorau am nwyddau neu wasanaethau na ddarparwyd erioed.
- Hawliadau yswiriant ffug, gan gynnwys am lithro a baglu.
- Hawliadau treuliau ffug.
- Hawliadau milltiredd ffug
- Cynnig neu dderbyn llwgrwobrwyon.
- Bathodynnau Glas Ffug.
- Dwyn neu gamddefnyddio arian, offer neu eiddo’r cyngor.
Rhowch wybod am dwyll os byddwch yn ei weld
Fel pob awdurdod lleol, mae gan Gyngor Wrecsam bolisïau a gweithdrefnau ar waith i helpu i atal a mynd i’r afael â thwyll.
Mae rhan o hyn yn cynnwys gofyn i’r cyhoedd, cynghorwyr a gweithwyr roi gwybod am dwyll posibl. Y ffordd hawsaf o wneud hyn yw trwy wefan y cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae unrhyw fath o dwyll yn gwbl annerbyniol – boed yn hawliadau treuliau ffug, hawliadau budd-daliadau ffug, hawliadau yswiriant ffug neu unrhyw beth arall.
“Mae peth twyll yn gymharol hawdd i’w ganfod, ond mae rhai twyllwyr yn glyfar iawn gyda’u tactegau ac mae seiberdroseddu yn faes arbennig o heriol, felly mae’n rhaid i ni barhau i fod yn wyliadwrus.
“Pan fydd rhywun yn twyllo’r cyngor, dylid bo’r arian hwnnw yn cael ei wario ar ddarparu gwasanaethau lleol.”


