Mae Cyngor Wrecsam wedi croesawu gwasanaethau trên ychwanegol sy’n cael eu cyflwyno gan Trafnidiaeth Cymru ym mis Rhagfyr.
Bydd y newidiadau yn gweld mwy o wasanaethau o Wrecsam, gan gynnwys gwasanaeth newydd bob awr rhwng Caer a Wrecsam – dyblu amlder i ddau drên yr awr.
O ddydd Llun i ddydd Sadwrn, bydd trenau newydd hefyd am 5:54 o Bidston i Wrecsam Cyffredinol, ac am 20:51 o Wrecsam Cyffredinol i Bidston.
Mae’r cyngor wedi bod yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i gefnogi’r newidiadau hyn, a fydd yn dod i rym ar 14 Rhagfyr.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, yr Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am drafnidiaeth strategol: “Mae hyn yn newyddion ardderchog a bydd y gwasanaethau trên ychwanegol yn cynnig manteision mawr i bobl leol, ac unrhyw un sy’n cymudo i ac o Wrecsam.
“Mae cysylltedd trafnidiaeth da yn hanfodol i unrhyw ddinas, ac rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Trafnidiaeth Cymru i gefnogi’r gwelliannau hyn i wasanaethau lleol.”


