Sefydlwyd Clwb Pêl-droed Cyn-filwyr Wrecsam gan Neil Jones mewn cydweithrediad â Chyfamod y Lluoedd Arfog a Chlwb Pêl-droed Wrecsam.
Daeth y syniad yn dilyn awydd i ddod â chyn-filwyr o bob rhan o ardal Wrecsam at ei gilydd trwy bêl-droed – gan gynnig cyfleoedd i gadw’n heini, cysylltu, a chefnogi ei gilydd trwy bŵer chwaraeon.
Dechreuodd cynllunio ar gyfer y prosiect ym mis Ebrill 2025, a gyda chymorth Clwb Pêl-droed Wrecsam trwy eu Cysylltiad Cymunedol â’r Lluoedd Arfog, ehangodd y fenter yn gyflym. Ers ffurfio, mae’r tîm wedi tyfu i dros 48 o aelodau, sy’n cynrychioli’r Fyddin, y Llynges Frenhinol, y Môr-filwyr Brenhinol, a’r Llu Awyr Brenhinol.
Mae sawl gêm elusennol eisoes wedi’u chwarae, gan gynnwys gemau yn erbyn Clwb Pêl-droed Croeshowell, Clwb Pêl-droed Brymbo, Clwb Pêl-droed Cymunedol Llandudno a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru – gyda llawer mwy o gemau ar y gweill.
Ym mis Chwefror bydd tîm o HMS Dragon (y llong gyntaf i gael ei chysylltu â Wrecsam ers yr ail ryfel byd) yn Wrecsam i chwarae gêm. Hefyd yn 2026, mae gemau wedi’u cynllunio gyda thimau Hybiau Cyn-filwyr yr Uwch Gynghrair a’r Bencampwriaeth – gan gynnwys Sunderland, Lerpwl, a Newcastle
Yn ddiweddar, fe wnaeth Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Wrecsam, y Cynghorydd Beverly Parry Jones, ymweld â noddwr newydd y tîm, Sofa Outlet yn Stad Ddiwydiannol Wrecsam, lle datgelwyd eu cit newydd a dywedodd, “Mae’n wych gweld tîm mor newydd yn datblygu mor gyflym gyda llawer o’n cyn-filwyr lleol bellach yn elwa o ymuno â’r clwb.”
Dywedodd sylfaenydd y clwb, Neil Jones, “Hoffwn ddiolch i Sofa Outlet am ddangos eu cefnogaeth i’n menter gan noddi ein cit swyddogol cyntaf. “Hoffwn hefyd ofyn i unrhyw gyn-filwyr sydd â diddordeb mewn ymuno i ddod i’n sesiynau ymarfer ar gae astro Prifysgol Glyndŵr yn Wrecsam; rydyn ni yno bob dydd Iau rhwng 6 a 7pm. “Croeso cynnes i bawb.”

Kate Jones, Neil Jones, Nick Davies ac Cyng Beverley Parry Jones


