Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysgPobl a lle

Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 20, 2026 4:31 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Pupils at Ysgol Llan y Pwll
RHANNU

Mae adroddiad newydd gan Estyn yn cynrychioli canlyniad gwych i Ysgol Llan-y-Pwll, a gafodd ei chanmol i’r cymylau.

Cynnwys
  • Canlyniadau Estyn
  • Teulu ysgol croesawgar a chynhwysol
  • Tyst i ymroddiad staff

Tynnwyd sylw at lawer o nodweddion cryfaf yr ysgol a chanmolwyd staff am eu hymroddiad diwyro.

Canlyniadau Estyn

Ymwelodd Arolygwyr Estyn â’r ysgol ddiwedd mis Hydref 2025. Nododd yr adroddiad, a gyhoeddwyd ychydig cyn y Nadolig, “Mae Ysgol Llan-y-Pwll yn gymuned ddysgu ofalgar, hapus a chynhwysol lle ceir ymdeimlad cryf fod pob disgybl yn aelod o deulu mawr, clos.”

“Wrth i’r ysgol barhau i dyfu dros amser, mae’r pennaeth yn darparu cyfeiriad strategol clir sy’n hyrwyddo datblygu cynaliadwy a gwelliant parhaus mewn ffordd bwrpasol ac effeithiol.  Mae’r weledigaeth hon, sy’n seiliedig ar gydweithrediad diwyd rhwng holl randdeiliaid yr ysgol, yn sicrhau’r cyfleoedd gorau i bob disgybl o fewn cymuned ddysgu ofalgar a Chymreig.  Fel un tîm effeithiol, mae’r pennaeth yn cael ei chefnogi’n ddiwyd gan staff ymroddedig sy’n rhoi pwyslais ar sicrhau bod hapusrwydd, diogelwch a lles pob disgybl wrth wraidd holl waith yr ysgol a’i hethos.”

Nododd yr adroddiad mai “Un o rinweddau amlycaf yr ysgol yw gwybodaeth gadarn arweinwyr a staff am bob plentyn a’r ffordd y maent yn anelu’n angerddol at ddiwallu eu hanghenion lles a dysgu unigol trwy ddulliau tracio cynnydd priodol.”

Canmolodd arolygwyr addysgu a dysgu gan nodi, “Mae staff yn ystyried awgrymiadau disgyblion yn briodol ac yn gweithio’n gynhyrchiol gyda nhw a’u

rhieni i ddatblygu cwricwlwm sy’n ymgorffori natur gymunedol yr ysgol yn bwrpasol. Maent yn darparu ystod eang o brofiadau ysgogol ac ystyrlon sy’n sicrhau diddordeb a mwynhad disgyblion yn eu gweithgareddau dysgu.”

“Un o gryfderau amlwg yr ysgol yw’r dyheadau uchel a rennir gan arweinwyr a staff i feithrin sgiliau Cymraeg disgyblion. Mae’r berthynas gynhyrchiol rhwng yr ysgol a’r rhieni a chymuned ehangach yr ysgol yn gryfder amlwg.  Mae arweinwyr yn gweithredu’n rhagweithiol i fagu hyder rhieni wrth gefnogi datblygiad ieithyddol eu plant yn yr iaith Gymraeg.”

Nododd yr adroddiad hefyd, “Dros amser, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion, gan gynnwys y rhai o aelwydydd incwm isel, yn datblygu ystod o sgiliau yn gyson, gan gynnwys eu sgiliau llythrennedd.”

Teulu ysgol croesawgar a chynhwysol

Dywedodd y Pennaeth Rhiannon James:  “Rydw i mor falch o’n plant, staff, rhieni, llywodraethwyr a’n teulu ysgol ehangach. Ers i’r ysgol agor ym mis Medi 2022, mae pawb wedi cyfrannu at ddatblygu a sefydlu Ysgol Llan-y-Pwll fel cymuned groesawgar a chynhwysol lle mae disgyblion yn teimlo’n hapus, yn cael eu cefnogi a’u hysbrydoli i ddysgu, tyfu a llwyddo gyda’i gilydd.”

“Rydyn ni i gyd yn gweithio’n galed i sicrhau ein bod yn cynnig ystod eang o gyfleoedd a phrofiadau cyffrous i’n holl ddysgwyr a’u teuluoedd, ac rwy’n falch iawn bod yr arolygwyr wedi cydnabod hyn. Nodwyd bod arweinwyr yn sicrhau bod y ddarpariaeth o fewn yr ardaloedd dysgu dan do ac awyr agored yn gyfoethog ac yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion chwarae, dysgu ac ymchwilio mewn amgylchedd diddorol.”

“Hoffwn ddiolch i’n holl blant, staff, llywodraethwyr a rhieni am eu cefnogaeth a’u hymroddiad diwyro i’n hysgol.  Rydym yn gyffrous i adeiladu ar y sylfaen gadarn hon a sicrhau bod Ysgol Llan-y-Pwll yn parhau i ffynnu a thyfu fel amgylchedd cynhwysol, uchelgeisiol a chefnogol i bob disgybl. Dros y blynyddoedd nesaf, wrth i ddisgyblion symud i’r grwpiau blwyddyn hŷn, edrychwn ymlaen at barhau i ddatblygu ymhellach fel ysgol.”

Tyst i ymroddiad staff

Ychwanegodd y Cynghorydd Becca Martin, Cadeirydd y Llywodraethwyr:  “Rwy’n falch iawn o ganlyniad arolwg Estyn cyntaf Ysgol Llan-y-Pwll. Mae’n dyst i arweinyddiaeth y pennaeth ac ymroddiad yr holl staff sy’n ymdrechu i greu amgylchedd dysgu meithringar a dysgwyr brwdfrydig. Ar ran y Llywodraethwyr, hoffwn ganmol yr holl staff am eu gwaith caled, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’n gilydd i adeiladu ar y llwyddiant hwn.”

Gwnaeth arolygwyr yr argymhellion canlynol yn dilyn yr ymweliad:

  • Darparwch weithgareddau dysgu sy’n sicrhau her gyson i ddisgyblion.
  • Datblygwch rolau arwain disgyblion i gael dylanwad ehangach ar fywyd a gwaith yr ysgol.
  • Grymuswch y corff llywodraethu i weithredu prosesau hunanwerthuso yn fwy effeithiol.

Mae’r adroddiad llawn ar gael i’w weld ar wefan Estyn.

Rhannu
Erthygl flaenorol David Ebsworth Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol
Erthygl nesaf Cefn Mawr library Sylw ar weithgareddau llyfrgell Cefn Mawr

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lle Y cyngor
Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Pobl a lle

Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English