Mae sefydliadau partner yn parhau i weithio gyda’i gilydd i atal problemau o ran arogleuon o safle tirlenwi ger Johnstown.
Mae Safle Tirlenwi’r Hafod wedi denu llawer o ddiddordeb cyhoeddus dros y blynyddoedd diwethaf, gyda phobl leol yn adrodd am arogleuon drwg yn effeithio ar y pentref.
Ers 2025, mae aelodau’r grŵp wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i geisio dod o hyd i ffordd ymlaen, gan gynnwys trigolion lleol, cynghorwyr, Aelodau Seneddol, Aelodau o’r Senedd, Cyngor Wrecsam, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Enovert – y cwmni sy’n rhedeg y safle.
Mae’r pwyntiau allweddol a drafodwyd yn y cyfarfod diweddaraf a gynhaliwyd ym mis Mehefin (2026) yn cynnwys:
Monitro
Mae gwaith monitro arogleuon oddi ar y safle yn parhau i ddigwydd mewn 14 lleoliad, gan gynnwys ardaloedd preswyl cyfagos.
Cododd nifer y cwynion am arogleuon i’w huchafbwynt ym mis Ionawr, ond ers mis Chwefror bu gostyngiad sylweddol yn nifer y cwynion. Mae hyn yn gyson â gwiriadau dyddiol i fonitro arogleuon, sydd wedi cofnodi gostyngiad yn amlder a dwyster arogleuon dros yr un cyfnod.
Hefyd, mae’r Cyngor yn parhau i fonitro am Hydrogen Sylffid (H2S) yn yr atmosffer, gyda dwy uned monitro ansawdd aer wedi’u lleoli yn y gymdogaeth.
Mae crynodiadau hydrogen sylffid a fesurwyd yn is na lefelau’r canllawiau iechyd ac mae adroddiadau monitro ar gael i’w gweld ar y tudalennau ‘Sut rydym yn rheoleiddio Safle Tirlenwi Hafod’ ar wefan CNC.
Fodd bynnag, nid yw monitro ansawdd aer yn rhan o’r drwydded amgylcheddol a reoleiddir gan CNC.
Diffinnir rôl reoleiddio CNC yn Hafod gan Drwydded Amgylcheddol y safle. Mae CNC yn parhau i reoleiddio yn unol â gofynion y drwydded, sy’n cynnwys asesu a yw’r holl fesurau priodol yn cael eu defnyddio i reoli arogleuon.
Cwynion
Gall trigolion roi gwybod i CNC am arogleuon drwy gysylltu â 0300 065 3000 neu drwy’r ffurflen ‘Rhoi gwybod am ddigwyddiad’ ar y wefan. Mae adroddiadau’n amhrisiadwy wrth helpu i fonitro a mynd i’r afael ag unrhyw bryderon yn effeithiol.
Yn ystod y 12 mis diwethaf, cyrhaeddodd nifer y cwynion uchafbwynt o gwmpas mis Rhagfyr 2025 a mis Ionawr 2026, ond mae’r niferoedd wedi gostwng yn raddol ers hynny.
Beth sy’n digwydd pan gaiff cwyn ei chyflwyno?
Pan fydd adroddiad yn cael ei dderbyn, caiff ei gofnodi a’i asesu gan swyddogion CNC, a’i ystyried ochr yn ochr ag adroddiadau eraill, data monitro a gwybodaeth sydd ganddynt am y safle.
Nid yw CNC yn asesu adroddiadau ar eu pen eu hunain. Yn hytrach, mae’n eu defnyddio i adeiladu darlun ehangach dros amser, gan helpu i nodi patrymau a thargedu gweithgarwch rheoleiddio. Gall adroddiadau arwain at archwiliadau pellach ar y safle, ymchwiliadau, neu ymgysylltiad â’r gweithredwr.
Mae CNC yn deall yr hoffai pobl gael adborth ar yr adroddiadau maen nhw’n eu cyflwyno. Fodd bynnag, oherwydd nifer yr adroddiadau y mae’n eu derbyn, yn ogystal ag ystyriaethau diogelu data a’r ffordd y mae’n asesu gwybodaeth ar y cyd, ni all CNC ddarparu ymatebion unigol.
Byddai darparu diweddariadau ar bob adroddiad yn lleihau’r amser sydd ar gael ar gyfer gwaith rheoleiddio. Felly mae CNC yn darparu diweddariadau rheolaidd i rannu gwybodaeth am ei weithgarwch cyffredinol.
Er mwyn sefydlu niwsans arogl statudol, mae’n rhaid i swyddogion Cyngor Wrecsam ymweld â chartrefi achwynwyr i dystio i’r arogl.
Gwaith ar y safle
Mae Enovert yn parhau i wneud gwelliannau ar y safle, gan gynnwys ‘capio’ (selio a gorchuddio rhannau o’r ddaear), drilio ffynhonnau i sicrhau bod yr holl nwy yn cael ei ddal, a gwella’r ffordd y mae dŵr glaw ffo yn cael ei reoli er mwyn lleihau faint o drwytholch (yr hylif sy’n ffurfio pan fydd dŵr glaw yn llifo trwy safle tirlenwi) sy’n cael ei gynhyrchu.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i wrando…”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, cadeirydd Grŵp Rhanddeiliaid Safle Tirlenwi’r Hafod: “Nid yw hwn yn fater byrdymor ac nid oes atebion cyflym, ond mae pethau’n symud ymlaen.
“Mae’n ymddangos bod lefelau arogleuon a chwynion i lawr ar hyn o bryd ar ôl uchafbwynt ar ddechrau’r flwyddyn, felly mae hynny’n galonogol. Byddwn ni’n parhau i fonitro pethau i weld a yw’r lefelau hynny’n aros yr un fath.
“Mae Enovert wedi adrodd cynnydd gyda chapio a gwaith arall ar y safle, felly mae hynny’n gadarnhaol iawn hefyd.
“Fodd bynnag, mae trigolion yn parhau i bryderu, ac mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i wrando’n ofalus ar y gymuned leol.
“Mae’r grŵp rhanddeiliaid wedi profi’n fforwm cadarnhaol iawn ar gyfer dod â phobl leol, cyrff cyhoeddus ac Enovert at ei gilydd, ac mae’n ymwneud â gweithio gyda’n gilydd i helpu i sicrhau bod y safle yn gymydog da i’r gymuned.”
Cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr CNC
Mae CNC yn cynhyrchu cylchlythyr rheolaidd i helpu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r cyhoedd a busnesau lleol am y cynnydd yn Safle Tirlenwi’r Hafod.
Gallwch gofrestru ar wefan CNC a darllen y cylchlythyr diweddaraf.
COFRESTRWCH




