Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Diweddariad diogelwch ar gyfer FyNghyfrif
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Diweddariad diogelwch ar gyfer FyNghyfrif
Y cyngor

Diweddariad diogelwch ar gyfer FyNghyfrif

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 6, 2026 11:19 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Mobile phone
RHANNU

Yn y dydd Mercher 8 Gorffennaf, bydd gwefan adrodd a thaliadau Cyngor Wrecsam i breswylwyr – FyNghyfrif – yn cael diweddariad diogelwch.

Bydd hafan FyNghyfrif hefyd yn newid sy’n golygu, pan fyddwch wedi mewngofnodi, byddwch yn gallu gweld pryd fydd eich biniau’n cael eu casglu nesaf.

Fel rhan o’r diweddariad diogelwch, rydym yn gweithredu polisi cyfrineiriau newydd, gyda gofynion diogelwch cryfach fel yr argymhellir gan y Sefydliad Safonau a Thechnoleg Cenedlaethol (NIST) a’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC).

Er mwyn hwyluso’r newid hwn, fe fydd yn ofynnol i chi ddiweddaru eich cyfrinair, a phan gaiff hyn ei actifadu, bydd gofyn i chi newid eich cyfrinair ar gyfer FyNghyfrif. Efallai y bydd hyn yn anghyfleus, ond dim ond unwaith y bydd yn rhaid i chi ei wneud a bydd yn sicrhau gwelliant sylweddol o ran diogelwch.

Sut i greu cyfrinair cryf

Mae cyfuno tri gair ar hap yn ffordd dda o greu cyfrinair, ac mae’n dechneg a argymhellir gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC).

Dyma enghraifft (dim ond enghraifft ydyw… peidiwch â’i ddefnyddio)…

Gallech gyfuno’r tri gair ‘afal’, ‘tŷ’ ac ‘oergell’ i greu’r cyfrinair ‘Afaltŷoergell’.

Er mwyn ei wneud hyd yn oed yn gryfach, gallech ychwanegu symbolau a rhifau rhwng y geiriau… er enghraifft ‘Afal%tŷ7oergell’.

Ceisiwch osgoi creu cyfrineiriau o fanylion am eich bywyd y gellir dod o hyd iddynt yn hawdd ar-lein, gan gynnwys proffiliau cyfryngau cymdeithasol (penblwyddi, hoff dimau pêl-droed, enw eich ci anwes ac ati).

Dylai defnyddio tri gair ar hap eich helpu i greu cyfrinair sy’n llawer anoddach i hacwyr a throseddwyr ei ddyfalu, ond yn ddigon hawdd i’w gofio.

Os yw eich cyfrinair presennol eisoes yn bodloni’r safonau hyn, gallwch ei ailddefnyddio pan ofynnir i chi newid eich cyfrinair.

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, aelod arweiniol dros lywodraethu a chwsmeriaid: “Rydym yn darllen yn rheolaidd am broblemau diogelwch ar-lein, felly rwy’n falch o weld y diweddariad hwn i feddalwedd talu ac adrodd y cyngor.

“Byddwn yn annog pob preswylydd sydd â chyfrif i fewngofnodi a newid eu cyfrinair i fodloni’r gofynion newydd – mae’r weithred untro, syml hon yn golygu y bydd eich gwybodaeth yn fwy diogel.”

Os oes unrhyw gwestiynau gennych, mae croeso i chi gysylltu â thîm cymorth FyNghyfrif.

Rhannu
Erthygl flaenorol Cerdded a beicio yn Wrecsam – rhowch eich barn Cerdded a beicio yn Wrecsam – rhowch eich barn
Erthygl nesaf Hafod landfill site Diweddariad ar Safle Tirlenwi’r Hafod: monitro arogleuon a gwaith ar y safle yn parhau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

All Saints School Pupils
Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 7, 2026
Housing Image
Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru
Y cyngor
Hydref 7, 2026
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 6, 2026
The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
Recycling
Y cyngor

Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu

Medi 25, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Y cyngor

Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein

Medi 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English