Erthygl wadd gan ap Betterpoints
Ym mis Tachwedd, rydyn ni’n eich herio i fynd allan a darganfod mwy o’r hyn sydd ar garreg eich drws.
Pam Mynd yn Lleol?
Mae ymchwil wedi darganfod cysylltiadau cryfach mewn cymdogaethau â lles gwell, tra bod lleoedd lleol yn rhoi cyfleoedd i ni gwrdd â phobl, gweld wynebau cyfarwydd a theimlo’n rhan o gymuned.
Mae gan ein siopau lleol a’n strydoedd mawr rôl bwysig i’w chwarae hefyd. Mae ymchwil gan Goleg Prifysgol Llundain yn tynnu sylw at y ffaith bod strydoedd mawr yn draddodiadol yn llawer mwy na lleoedd i siopa. Maen nhw hefyd yn fannau cymdeithasol, cymunedol a hamdden a all gyfrannu at iechyd a lles.
Gallai hynny fod yn gaffi lle mae rhywun yn gwybod eich archeb, y siop annibynnol sydd â’r holl anrhegion munud olaf da, llyfrgell, marchnad, parc neu yn syml lle cyfarwydd lle rydych chi’n cwrdd â phobl rydych chi’n eu hadnabod yn rheolaidd.
Pedair wythnos. Pedair ffordd i Fynd yn Lleol.
Bob wythnos byddwn yn canolbwyntio ar thema wahanol:
- Caru – Beth ydych chi’n ei garu fwyaf am eich ardal leol?
- Archwilio – Dywedwch wrthym am rywbeth newydd y gwnaethoch chi ei ddarganfod yr wythnos hon wrth archwilio eich ardal leol.
- Cefnogi – A oes busnes neu elusen leol lle hoffech chi allu gwario/cyfrannu eich BetterPoints?
- Mwynhau – Beth wnaethoch chi ei fwynhau fwyaf am daith leol y mis hwn?
Byddwn yn gofyn cwestiwn syml i chi bob wythnos fel y gallwch rannu eich profiadau a’n helpu i ddeall beth sy’n gwneud teithiau lleol yn werth chweil.
Ennill BetterPoints!
Mae yna lwyth o BetterPoints ar gael trwy gydol mis Tachwedd:
- 300 o enillwyr gwobrau dyddiol – byddwn yn rhoi 10 gwobr o 1,000 o BetterPoints i ffwrdd bob dydd.
- 60 enillydd – Atebwch ein cwestiwn Mynd yn Lleol wythnosol a gallech fod yn un o’r 15 enillydd wythnosol o 2,500 o BetterPoints.
- Seren Mynd yn Lleol – bydd un ymateb i’r cwestiynau Mynd yn Lleol sy’n sefyll allan yn cael 20,000 o BetterPoints.
Sut i gymryd rhan
- Yn syml, cofnodwch eich teithiau cerdded, olwyno, rhedeg neu feicio yn ap BetterPoints.
- Cymerwch sylw o’r pethau bach rydych chi fel arfer yn eu hanwybyddu. Ewch i ymweld â rhywle cyfarwydd, darganfyddwch rywle newydd neu cymerwch ychydig mwy o sylw o’r bobl a’r lleoedd o’ch cwmpas.
- Rhowch gynnig ar ateb ein cwestiwn wythnosol i ddweud wrthym am eich profiadau lleol am hyd yn oed mwy o gyfleoedd i ennill.
Caru. Archwilio. Cefnogi. Mwynhau. Ewch yn Lleol!


