Mae trigolion yn cael eu hannog i helpu i lywio gwelliannau yn y dyfodol i lwybrau cerdded, olwyno a beicio Wrecsam drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol.
Yn ogystal ag archwilio’r map ar-lein a llenwi’r ffurflen adborth, gall pobl siarad yn uniongyrchol â swyddogion y Cyngor mewn dau ddigwyddiad ymgysylltu wyneb yn wyneb:
Tŷ Pawb
Dydd Mawrth 11 Awst, 11am-1pm
Llyfrgell Wrecsam
Dydd Gwener 14 Awst, 1pm-3pm
Mae’r digwyddiadau yn rhoi cyfle i ofyn cwestiynau, trafod y rhwydwaith presennol a rhannu syniadau am ble y gallai fod angen gwelliannau.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: “Bydd yr adborth rydyn ni’n ei gael yn ein helpu i ddeall sut mae pobl yn teithio o gwmpas Wrecsam ar hyn o bryd a ble maen nhw’n credu y gellid gwneud gwelliannau.
Mae’n bwysig bod unrhyw un sydd eisiau i’w barn gael ei chofnodi’n ffurfiol yn archwilio’r map ac yn llenwi’r ffurflen adborth ar-lein. Er ein bod yn croesawu trafod ar gyfryngau cymdeithasol, ni fydd sylwadau a wneir ar y llwyfannau hynny yn cael eu cynnwys fel ymatebion ymgynghori ffurfiol.
Byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb mewn cerdded, olwyno neu feicio yn Wrecsam i gymryd rhan a’n helpu i ddatblygu rhwydwaith sy’n diwallu anghenion ein cymunedau’n well.”
Er mwyn sicrhau bod barn yn cael ei chofnodi’n ffurfiol ac yn cael ei hystyried fel rhan o’r ymgynghoriad, edrychwch ar y map a llenwch y ffurflen adborth ar-lein.
Sylwch na fydd sylwadau a wneir ar bostiadau cyfryngau cymdeithasol yn cael eu cynnwys fel ymatebion ymgynghori ffurfiol.





