Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dweud eich dweud am Rwydwaith Teithio Llesol Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Dweud eich dweud am Rwydwaith Teithio Llesol Wrecsam
Y cyngor

Dweud eich dweud am Rwydwaith Teithio Llesol Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 31, 2026 1:28 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Dweud eich dweud am Rwydwaith Teithio Llesol Wrecsam
RHANNU

Mae trigolion yn cael eu hannog i helpu i lywio gwelliannau yn y dyfodol i lwybrau cerdded, olwyno a beicio Wrecsam drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol.

Yn ogystal ag archwilio’r map ar-lein a llenwi’r ffurflen adborth, gall pobl siarad yn uniongyrchol â swyddogion y Cyngor mewn dau ddigwyddiad ymgysylltu wyneb yn wyneb:

Tŷ Pawb

Dydd Mawrth 11 Awst, 11am-1pm

Llyfrgell Wrecsam

Dydd Gwener 14 Awst, 1pm-3pm

Mae’r digwyddiadau yn rhoi cyfle i ofyn cwestiynau, trafod y rhwydwaith presennol a rhannu syniadau am ble y gallai fod angen gwelliannau.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: “Bydd yr adborth rydyn ni’n ei gael yn ein helpu i ddeall sut mae pobl yn teithio o gwmpas Wrecsam ar hyn o bryd a ble maen nhw’n credu y gellid gwneud gwelliannau.

Mae’n bwysig bod unrhyw un sydd eisiau i’w barn gael ei chofnodi’n ffurfiol yn archwilio’r map ac yn llenwi’r ffurflen adborth ar-lein. Er ein bod yn croesawu trafod ar gyfryngau cymdeithasol, ni fydd sylwadau a wneir ar y llwyfannau hynny yn cael eu cynnwys fel ymatebion ymgynghori ffurfiol.

Byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb mewn cerdded, olwyno neu feicio yn Wrecsam i gymryd rhan a’n helpu i ddatblygu rhwydwaith sy’n diwallu anghenion ein cymunedau’n well.”

Er mwyn sicrhau bod barn yn cael ei chofnodi’n ffurfiol ac yn cael ei hystyried fel rhan o’r ymgynghoriad, edrychwch ar y map a llenwch y ffurflen adborth ar-lein.

Sylwch na fydd sylwadau a wneir ar bostiadau cyfryngau cymdeithasol yn cael eu cynnwys fel ymatebion ymgynghori ffurfiol.

Rhannu
Erthygl flaenorol Be Mighty Recycle - festivals. Let's take recycling on tour. 7 o ffefrynnau’r ŵyl sy’n barod am barti yn bell ar ôl y gân olaf
Erthygl nesaf Bin collections - information Rhowch eich biniau allan i’w casglu erbyn 6am yn ystod mis Awst

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam v oxford
Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Elevate Conference
Cynhadledd Am Ddim Dyrchafu eich Busnes yn Wrecsam yn Dychwelyd 6 Tachwedd
Digwyddiadau
Medi 30, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
Recycling
Y cyngor

Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu

Medi 25, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Y cyngor

Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein

Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English