Ers dros ddegawd, mae Elusen y Morwyr wedi arwain yr ymgyrch “Fly The Red Ensign” i hyrwyddo’r cyfraniadau a wnaed gan forwyr dewr y Llynges Fasnachol.
Yma yn Wrecsam, byddwn unwaith eto yn falch o gymryd rhan ddydd Iau 3 Medi wrth i ni chwifio’r Lluman Coch o Neuadd y Gorfforaeth. Bydd hyn yn anrhydeddu’r dynion a’r menywod dewr sydd wedi gwasanaethu ac sy’n parhau i wasanaethu i sicrhau bod nwyddau’n parhau i gael eu cyflenwi dros y môr i’n hynys.
Seremoni codi baner yn Neuadd y Gorfforaeth
Byddwn yn coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol gyda seremoni codi baner fer y tu allan i Neuadd y Gorfforaeth am 10.30am ddydd Iau 3 Medi.
Mae croeso i bawb sydd â diddordeb ddod i weld y digwyddiad.
Y Lluman Coch
Y Lluman Coch yw baner swyddogol Llynges Fasnachol y DU sy’n cael ei adnabod yn annwyl yn Saesneg wrth ei lysenw, y “Red Duster”.
Oherwydd y rhai sy’n gwasanaethu oddi tano, mae’r DU yn cael ei stocio’n dda â bwyd, tanwydd a chyflenwadau meddygol. Mae llawer hefyd yn cefnogi’r Llynges Frenhinol trwy’r Llynges Frenhinol Ategol.
Dioddefodd y gwasanaeth golled gyntaf yr ail ryfel byd pan gafodd y llong fasnachol S.S. Athenia ei tharo â thorpido. Bu farw 128 o deithwyr a chriw ychydig oriau ar ôl i ddechrau’r rhyfel gael ei gyhoeddi.
Ers y diwrnod hwnnw, mae 3 Medi wedi parhau i gael ei gydnabod fel Diwrnod y Llynges Fasnachol.
Yn anffodus, nid suddo’r Athenia fyddai’r unig drasiedi. Hon oedd y gyntaf o lawer o longau a morwyr a fyddai’n anffodus yn dioddef yr un dynged dros y blynyddoedd canlynol.
Ffyrdd o gymryd rhan
Mae Elusen y Morwyr wedi rhoi cyngor ar ffyrdd y gallwch ddangos eich cymorth i Ddiwrnod y Llynges Fasnachol gartref neu yn eich cymuned.
O godi eich Lluman Coch eich hun, i wisgo sblash o goch yn eich gwisg ar 3 Medi, mae i gyd yn gallu helpu i goffáu’r diwrnod pwysig hwn.
Mae modd dangos cymorth hefyd dros gyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio’r hashnod #DiwrnodYLlyngesfasnachol. Mae pecynnau cymorth cyfryngau cymdeithasol ac asedau digidol ar gael trwy wefan Elusen y Morwyr.
Y ffordd hawsaf o ledaenu’r gair yw ar lafar i’ch ffrindiau a’ch teulu.
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Pencampwr y Lluoedd Arfog, “Mae gennym ni yma yn Wrecsam hanes milwrol balch ac rydym yn hynod falch o’r dynion a’r menywod dewr hynny sydd wedi gwasanaethu ac yn parhau i wasanaethu er ein diogelwch ni.
“Mae llawer o aelodau o’n cymuned wedi bod yn rhan o’r Llynges Fasnachol yn y gorffennol neu’n rhan ohoni ar hyn o bryd. Dyma pam rwy’n falch o gydnabod eu dewrder, eu hymroddiad a’u gwasanaeth ffyddlon trwy godi’r Lluman Coch.
“Gobeithio bod llawer ohonoch yn gallu ymuno â ni wrth i ni oedi i fyfyrio ar y rhai sy’n barod i roi’r aberth eithaf fel y gallwn gynnal yr heddwch rydyn ni’n ei wybod yn ein bywydau pob dydd.”
Dywedodd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Jeremy Kent, “Mae codi’r Lluman Coch uwchben Neuadd y Gorfforaeth yn anrhydedd ac yn fraint. Fel Maer, rwy’n falch o gynnal y seremoni hon wrth i ni ddiolch i wasanaethau’r aelodau hynny o’r Llynges Fasnachol yma yn Wrecsam, a ledled y DU.
“Rydym yn talu ein teyrnged iddynt am eu teyrngarwch diwyro i’w gwlad ac am ein gwasanaethu ni i gyd yn y gorffennol a’r presennol.
“Er efallai na fyddwn byth yn gwybod enwau neu wynebau’r arwyr hyn, byddant yn ein meddyliau ac yn cael ein diolchiadau mwyaf diffuant am byth.”


