Dechreuodd y gwaith o adnewyddu ac ehangu Ysgol I D Hooson yn swyddogol heddiw wrth i bennaeth yr ysgol, Clare Raynor, cynghorwyr a swyddogion Cyngor Wrecsam gwrdd â Read Construction, ar y safle.
Mae’r prosiect ehangu yn cynnwys estyniad wyth ystafell ddosbarth, tra bydd gwaith adnewyddu mewnol yn creu neuadd ysgol newydd ac yn galluogi’r ddarpariaeth gofal plant i gael ei symud i mewn i’r prif adeilad o’r llety dros dro presennol. Bydd parcio ar y safle yn cael ei wella hefyd.
Dywedodd y Pennaeth, Claire Raynor: “Rydw i’n falch iawn bod y prosiect hwn bellach ar y gweill. Bydd yn cael effaith mor gadarnhaol ar amgylchedd dysgu’r disgyblion, yn enwedig, ac yn ehangu’r ddarpariaeth Gymraeg yma yn yr ysgol, a fydd yn ei dro yn effeithio ar dwf yr iaith yn Rhos a’r gymuned gyfagos. Mae wedi cael ei brofi bod dwyieithrwydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad addysgol plant, ac nid yw’n cael ei danbrisio yma yn Ysgol I D Hooson.
“Rydw i’n edrych ymlaen at weld y prosiect yn symud yn ei flaen ac yn cynnwys yr ysgol a’r gymuned leol ar hyd y ffordd.”
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am ei buddsoddiad yn y gwaith o foderneiddio Ysgol I D Hooson, ein hysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Rhos.
“Bydd y gwelliannau hyn yn helpu i sicrhau bod disgyblion a staff yn elwa o amgylchedd dysgu modern, croesawgar o ansawdd uchel, gan gefnogi twf a llwyddiant parhaus addysg cyfrwng Cymraeg yn ein cymuned ym mhentref Rhos.
“Fel yr aelod arweiniol dros addysg, mae bob amser yn bleser personol gweld gwelliannau yn cael eu gwneud i adeiledd ein hysgolion. Mae buddsoddi mewn adeiladau ysgol yn fuddsoddiad yn ein plant, ein teuluoedd, a dyfodol ein cymunedau.
“Rydw i’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gydnabod pwysigrwydd Ysgol I D Hooson ac am ddarparu’r cyllid sydd ei angen i wella’r ysgol leol werthfawr hon. Rydw i’n edrych ymlaen at weld disgyblion yn mwynhau manteision y gwelliannau hyn am flynyddoedd lawer i ddod.”
Dywedodd Karen Heaton-Morris, Cyfarwyddwr Read Construction: “Fel contractwr o Wrecsam, rydyn ni’n falch iawn o fod wedi dechrau gweithio yn Ysgol I.D. Hooson. Bydd y prosiect yn darparu cyfleusterau modern i ddisgyblion a staff wrth gefnogi’r economi leol trwy gyfleoedd cyflogaeth, prentisiaethau a defnydd o bartneriaid cadwyn gyflenwi lleol. Ar hyn o bryd, rydyn ni’n hysbysebu cyfleoedd is-gontractio a chyflenwi drwy GwerthwchiGymru a bydden ni’n annog busnesau o Wrecsam i gysylltu â ni.”
Mae’r prosiect, sydd wedi cael arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru drwy ei Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, wedi’i gynllunio i gefnogi anghenion hirdymor yr ysgol. Bydd y prosiect yn darparu amgylcheddau dysgu modern, hyblyg wrth greu cyfleusterau parhaol ar gyfer mannau sydd mewn ystafelloedd dosbarth dros dro ar hyn o bryd. Bydd y cynllun hefyd yn darparu gwelliannau o ran cynaliadwyedd, gan gynnwys mesurau dylunio ynni-effeithlon a gwell seilwaith ar y safle.


