Ydych chi wedi rhoi cynnig ar y parcio a theithio pan fyddwch chi’n mynd i wylio Clwb Pêl-droed Wrecsam ar y Cae Ras?
Y tymor hwn, mae nifer y bobl sy’n manteisio ar y parcio a theithio ar Ffordd Rhuthun wedi dyblu – felly beth am roi cynnig arni a gweld pa mor hawdd a rhad ydyw!
Mae’r parcio a theithio yno i gefnogi parcio diwrnod gêm a lleihau tagfeydd yng nghanol y ddinas.
Ond nid dyma’r unig opsiwn! Cymerwch gip ar yr wybodaeth isod a dewiswch pa un sy’n gweddu orau i chi…
Parcio a theithio
Mae’r parcio a theithio yn costio £1 yn unig am daith ddwyffordd (50c ar gyfer consesiynau)
Parcio y tu allan i swyddfeydd Cyngor Wrecsam ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam LL13 7TU.
Cyn y gêm, bydd bysus yn rhedeg o’r safle bws yn Ffordd Rhuthun bob 20 munud, gan ddechrau dwy awr cyn y gic gyntaf.
Ar ôl y gêm, bydd bysus yn rhedeg o Ffordd yr Wyddgrug, bob 20 munud ar ôl y chwiban olaf.
Tocynnau bws ar bris gostyngol
Os nad ydych chi eisiau gyrru i’r gemau, beth am ddal y bws a thalu llai wrth ddangos eich tocyn gêm i’r gyrrwr?
Prynwch Docyn Parth Wrecsam (gallwch weld y llwybrau yma) a thalu £3.00 ar gyfer Oedolyn/£2.00 ar gyfer Plentyn – gan arbed hyd at £2.60.
Ar ôl y gêm fydd dim brys i deithio adref gan fod tocynnau dydd yn ddilys hyd at 11.59pm ar y diwrnod, felly gallwch aros yng nghanol y ddinas i ddathlu buddugoliaeth arall!


