Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lleArallDatgarboneiddio Wrecsam

Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 23, 2026 2:06 pm
Rhannu
Darllen 8 funud
Wo
RHANNU

Datganiad ar y cyd gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid rhanbarthol

Mae asesiad newydd o risgiau newid hinsawdd ledled Gogledd Cymru yn amlygu graddfa’r heriau sydd ar y gweill, a’r gwaith sylweddol sydd eisoes yn mynd rhagddo i helpu cymunedau, gwasanaethau, isadeiledd, busnesau a’r amgylchedd naturiol i baratoi at hinsawdd sy’n newid.

Mae Asesiad Risg Newid Hinsawdd Rhanbarthol Gogledd Cymru yn dod â thystiolaeth ynghyd o chwe sir – Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, a Wrecsam. Gyda mewnbwn gan gyrff rhanbarthol eraill, mae’n darparu sail dystiolaeth a rannwyd i helpu cyrff cyhoeddus a phartneriaid i ddeall lle mae’r risgiau ar eu mwyaf, a lle gall camau gweithredu, buddsoddiad a chydweithio pellach wneud y gwahaniaeth mwyaf.

Adolygodd yr asesiad 62 o risgiau mewn perthynas â’r hinsawdd, gydag 17 yn y categori “Gweithredu Nawr”, 32 yn y categori “Cynllunio Nawr” a 6 fel “Gwylio / Isel”. Ymysg y risgiau blaenoriaeth uchel mae effeithiau tywydd eithafol ar iechyd a gofal cymdeithasol, llifogydd mewn cartrefi a chymunedau, amhariad i gludiant ac isadeiledd hanfodol arall, risgiau i gymunedau arfordirol, ac amhariad i fusnesau a chadwyni cyflenwi.

Ond mae’r asesiad hefyd yn arddangos nad yw Gogledd Cymru yn cychwyn o’r newydd.

Ar draws y rhanbarth, mae cyrff cyhoeddus a phartneriaid eisoes yn cymryd camau ymarferol i reoli risgiau hinsawdd a chryfhau cadernid.

Mae enghreifftiau yn cynnwys addasu’r arfordir, cynlluniau lliniaru llifogydd; gwella cydlyniant ymateb amlasiantaethol i dywydd garw, gwaith i baratoi bywyd gwyllt, buddsoddiad mewn isadeiledd cludiant cadarn; a mentrau i warchod pobl sy’n arbennig o ddiamddiffyn yn ystod tywydd eithafol.

Mae’r asesiad yn amlygu gwerth y dull cydweithredol hwn o weithio. Mae profiadau yn sgil digwyddiadau mawr o lifogydd a stormydd wedi cryfhau ymateb ar draws y siroedd mewn argyfwng, yn ogystal â chyd-gymorth, gyda phrosiectau addasu’r arfordir a lliniaru llifogydd ar sail natur yn arddangos sut mae buddsoddiad mewn isadeiledd a’r amgylchedd naturiol yn gallu lleihau risgiau. Mae’r dull mewnol, cydweithredol o weithio er mwyn llunio’r asesiad risg wedi arbed tua £200,000 hefyd, o’i gymharu â’r dyfynbrisiau gan ymgynghorwyr.

Nina Ruddle, cadeirydd, BGC Sir y Fflint a Wrecsam: “Nid yw’r asesiad yn nodi problemau yn unig – mae’n ein helpu i benderfynu ar ein camau nesaf. Mae’n enghraifft gref o gydweithio ar draws Gogledd Cymru, gyda Phartneriaeth Dealltwriaeth Gogledd Cymru yn cefnogi ein Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i roi’r pum ffordd o weithio ar waith.

“Mae angen i ni ddefnyddio’r dystiolaeth hon i wneud dewisiadau gwybodus am fuddsoddiadau a blaenoriaethau er mwyn cryfhau ein gwasanaethau a’n hisadeiledd, ac i weithio gyda chymunedau, busnesau, a phartneriaid i baratoi at y newidiadau i ddod. Gall cymryd camau’n gynnar leihau amhariad a chostau yn y dyfodol, gan ddod â buddion ehangach i iechyd, cymunedau, yr economi a’n hamgylchedd.”

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Wrecsam, y Cynghorydd David A Bithell: “Mae’r byd yn wynebu heriau hinsawdd enfawr, ac mae’n hanfodol bod partneriaid ledled Gogledd Cymru yn deall yn glir beth mae’r heriau hynny yn ei olygu i’r rhanbarth.

“Mae’n bwysig ein bod yn rhannu gwybodaeth a gwersi i helpu i gefnogi ein gilydd, ac mae’r gwaith hwn wedi bod yn enghraifft dda iawn o gydweithio.

“Mae newid hinsawdd yn rhywbeth a fydd yn effeithio ar bob un ohonom; po orau yr ydym wedi’n hysbysu, gorau oll fydd ein sefyllfa i baratoi, ymateb a llunio dyfodol mwy gwydn i Wrecsam a Gogledd Cymru.”

Yr athro Andrew Edwards, cadeirydd, BGC Gwynedd a Môn: “Mae’r asesiad hwn yn rhannu darlun llawer mwy eglur o’r risgiau mewn perthynas â’r hinsawdd sy’n wynebu Gogledd Cymru, ac yn bennaf, lle mae’r risgiau hynny eisoes yn cael eu profi gan ein cymunedau.

“Mae’n arddangos bod gwybodaeth, profiad ac ymarfer da helaeth ar hyd y rhanbarth. Yr her rŵan yw adeiladu ar y seiliau hynny, dysgu gan y naill a’r llall, a sicrhau bod risg mewn perthynas â’r hinsawdd yn cael ei hystyried yn y penderfyniadau a wnawn heddiw am ein gwasanaethau, cymunedau, isadeiledd a’r amgylchedd naturiol.”

Llefarydd ar ran BGC Conwy a Sir Ddinbych: “Nid yw newid hinsawdd yn stopio ar ffiniau ein siroedd, ac ni ddylai ein hymateb wneud ‘chwaith. Mae’r gwaith tu ôl i’r asesiad hwn wedi dod â sefydliadau ynghyd i rannu tystiolaeth, profiad ac enghreifftiau ymarferol o beth sy’n gweithio.

“Rydym wedi gweld buddion y dull hwnnw drwy ymatebion cydlynol i ddigwyddiadau o lifogi a thywydd eithafol, addasu’r arfordir, a phrosiectau sy’n gweithio gyda natur i leihau risgiau. Mae’r adroddiad yn amlygu’n glir pa mor bwysig ydi buddsoddi rŵan i Gynghorau a phartneriaid, er mwyn achub bywydau ac osgoi costau uchel yn sgil peidio gweithredu neu weithredu’n rhy hwyr. Mae cyfle gwirioneddol i gryfhau cadernid y rhanbarth yn ei chyfanrwydd.”

Ni fydd newid hinsawdd yn cael yr un effaith ar bawb. Mae’r asesiad hwn yn amlygu sut bydd ffactorau megis oedran, iechyd, anabledd, tai gwael, incwm isel, ac arwahanrwydd cymdeithasol gynyddu bregusrwydd yn sgil effeithiau’r hinsawdd. O ganlyniad, gall gryfhau cadernid o ran hinsawdd gyfrannu at fynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran iechyd, lleihau bregusrwydd, a chefnogi lles cymunedau.

Yn ogystal â hynny, mae’r asesiad yn pwysleisio bod amgylchedd naturiol iach yn rhan bwysig o gadernid yr hinsawdd. Gall corsydd mawn, coetiroedd, afonydd, twyni, corsydd hallt a chynefinoedd eraill helpu i reoli dŵr, lleihau gwres, cefnogi bioamrywiaeth a diogelu cymunedau rhag effeithiau’r hinsawdd. O ganlyniad, gall gwarchod ac adfer y systemau naturiol hyn gynnig manteision i bobl a natur.

Datblygwyd yr asesiad drwy gydweithio rhwng tri Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Cymru, y chwe awdurdod lleol, a phartneriaid rhanbarthol, gyda mewnbwn gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, cynrychiolwyr o Dirluniau Cenedlaethol y rhanbarth, Uchelgais Gogledd Cymru, Dŵr Cymru, ac Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru. Y prif awdur oedd Dr Rebecca Colley Jones o Adnoddau Ynys a weithiodd ar y cyd gyda dau ymchwilydd o Brifysgol bangor – Dani Crowley a Marina De Llobet Payas.

Bydd canfyddiadau o’r asesiadau risg yn nodi Asesiadau Lles a Chynlluniau Lles 2027–2032, y bydd Cynghorau a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn eu hymgynghori dros y flwyddyn nesaf. Byddant yn nodi rheolaeth risg gorfforaethol, buddsoddiad, rheolaeth asedau, argyfyngau a chynllunio parhad busnes. Bydd cyrff cyhoeddus a phartneriaid hefyd yn edrych ar sut mae dulliau llwyddiannus o weithio yn gallu cael eu rhannu, a lle mae angen camau gweithredu ar y cyd.

Mae’r neges o’r asesiad yn glir: Mae gan Ogledd Cymru seiliau cadarn ar gyfer cadernid hinsawdd, ond mae’r hinsawdd newidiol yn golygu bod angen parhau’r gwaith hwn, datblygu a dod yn fwy cydlynol.

Rhannu
Erthygl flaenorol Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026
Cloudy sky
Rhybudd tywydd – Storm Austen
Y cyngor Arall
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English