Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwelliannau arfaethedig i deithio ar fysus ar gyfer ardaloedd cyflogaeth allweddol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Gwelliannau arfaethedig i deithio ar fysus ar gyfer ardaloedd cyflogaeth allweddol
Busnes ac addysgArall

Gwelliannau arfaethedig i deithio ar fysus ar gyfer ardaloedd cyflogaeth allweddol

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 3, 2026 12:44 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Gwelliannau arfaethedig i deithio ar fysus ar gyfer ardaloedd cyflogaeth allweddol
RHANNU

Fel rhan o thema allweddol y Parth Buddsoddi ar gyfer gwella seilwaith lleol, mae Trafnidiaeth Cymru yn cael cyllid i wella gwasanaethau bysus ar draws Wrecsam a Sir y Fflint.

Cynnwys
  • Gwelliannau arfaethedig
  • Manteision i weithwyr a busnesau presennol / yn y dyfodol
  • Arolwg teithio: Ennill e-daleb gwerth £250 cyn y Nadolig!
  • Diweddariadau ar y gwelliannau yn y dyfodol

Disgwylir i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam dderbyn cyfran o £20m gan Barth Buddsoddi (PB) Wrecsam a Sir y Fflint, i wella gwasanaethau bysus ar draws Wrecsam.

Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a’r DU, bydd Rhaglen Trawsnewid Bysus y PB yn gwella gwasanaethau bysus lleol, gan helpu pobl i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth a datblygu sgiliau mewn cyrchfannau allweddol, fel Stad Ddiwydiannol Wrecsam a Stad Ddiwydiannol Llai.

Gwelliannau arfaethedig

Y gwelliannau arfaethedig yw:

  • Mwy o fysiau i, ac o Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam
  • Teithiau bws newydd yn gynnar yn y bore i wella cysylltiadau â gwasanaethau sy’n teithio i Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam
  • Gwell llwybrau bysiau traws-ddinasol, fel bod modd teithio i Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam heb y ffws o newid o fws i fws yng nghanol y ddinas
  • Rhai teithiau bws wedi’u hymestyn i wasanaethu ystâd ddiwydiannol ger pentref Llai

Manteision i weithwyr a busnesau presennol / yn y dyfodol

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, yr Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am Drafnidiaeth Strategol “Mae croeso mawr i’r cyllid sydd wedi’i dderbyn i gyflwyno gwasanaethau bws newydd a gwell i gysylltu cyflogaeth a mynediad i waith.

“I breswylwyr Bwrdeistref Sirol Wrecsam, bydd hyn yn dod â manteision uniongyrchol mynediad gwell at swyddi, cefnogi gweithwyr shifft, cysylltiadau rhwng mwy o gymunedau; a mynediad haws i deithio ar draws y rhanbarth yn gyffredinol.

“I fusnesau lleol, rydym yn gwybod y bydd y gwelliannau hyn hefyd yn golygu dalgylch gweithlu ehangach, gan ganiatáu mwy o dwf busnes, llai o dagfeydd a pharcio; yn ogystal ag annog teithio mwy cynaliadwy o fewn y gweithlu.”

Arolwg teithio: Ennill e-daleb gwerth £250 cyn y Nadolig!

Hefyd, os ydych chi’n gweithio yn un o’r ardaloedd cyflogaeth allweddol yn Wrecsam, yn un o’r gweithleoedd/sefydliadau addysgol canlynol, rydym yn gofyn i chi gymryd rhan mewn arolwg teithio:

  • Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam (gan gynnwys Parc Busnes Redwither)
  • Ystâd Ddiwydiannol Llai
  • Prifysgol Wrecsam
  • Coleg Cambria – Ffordd y Bers
  • Coleg Cambria – Yale

Arolwg teithio gweithwyr IZ

Bydd yr ymatebion i’r arolwg yn cael eu defnyddio i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd cyflwyno’r gwelliannau i’r gwasanaeth bysus.

Ni ddylai’r arolwg gymryd mwy na 10 munud i’w gwblhau.

Fel diolch i chi am gymryd yr amser i gwblhau’r arolwg hwn, byddwn yn cynnig y cyfle i chi gymryd rhan mewn raffl gwobrau am ddim i ennill taleb Amazon gwerth £250.

Mae’r raffl wobrau yn cau ar 13 Rhagfyr 2026, a bydd yr enillydd yn cael ei ddewis a’i hysbysu ar 15fed Rhagfyr 2026.

Diweddariadau ar y gwelliannau yn y dyfodol

Byddwch yn gallu gwirio am ddiweddariadau pellach ar y Rhaglen Trawsnewid Bysus o fewn y wybodaeth am y Parth Buddsoddi ar wefan y cyngor, neu cadwch lygad am ddiweddariadau ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrecsam yn paratoi ar gyfer Cynnau’r Goleuadau Nadolig eleni Wrecsam yn paratoi ar gyfer Cynnau’r Goleuadau Nadolig eleni

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn paratoi ar gyfer Cynnau’r Goleuadau Nadolig eleni
Wrecsam yn paratoi ar gyfer Cynnau’r Goleuadau Nadolig eleni
Digwyddiadau
Tachwedd 3, 2026
Vote
Mewn dau le ar yr un pryd…
Pobl a lle Busnes ac addysg
Tachwedd 2, 2026
Ruthin Road Car Park
Wrecsam v Middlesbrough – cofiwch barcio a theithio 🚗🚌
Digwyddiadau
Hydref 29, 2026
Armed Forces
Gwasanaeth Carolau Cymunedol y Lluoedd Arfog yn dychwelyd… 3 Rhagfyr 🎄
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

All Saints School fundraising activities
Pobl a lleBusnes ac addysg

Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da

Hydref 26, 2026
Wo
Pobl a lleArallDatgarboneiddio Wrecsam

Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid

Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Busnes ac addysg

Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam

Hydref 23, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English