Mae Wrecsam yn paratoi i groesawu tymor yr ŵyl, gyda diwrnod llawn o weithgareddau ac adloniant wedi’i gynllunio ar draws canol y ddinas ddydd Sadwrn, 14 Tachwedd.
Marchnad Grefftwyr Wrecsam – O 10.00am
Bydd y dathliadau’n dechrau am 10.00am ar Sgwâr y Frenhines, lle bydd Marchnad Grefftwyr Wrecsam yn cynnig ystod eang o stondinau sy’n gwerthu anrhegion wedi’u gwneud â llaw, nwyddau crefft, a bwyd a diod boeth.
Mae’n gyfle gwych i ddechrau siopa Nadolig, codi rhywbeth unigryw a chefnogi masnachwyr lleol.
Adloniant byw a gweithdai llusernau – O 11.00am
Bydd adloniant byw yn dechrau ar Sgwâr y Frenhines o 11am, gyda pherfformiadau trwy gydol y prynhawn yn helpu i greu’r awyrgylch Nadoligaidd cyn y goleuadau.
O 2pm ymlaen, bydd gweithdai addurno llusernau ar Sgwâr y Frenhines hefyd i blant a theuluoedd eu mwynhau cyn gorymdaith llusernau Hospis Tŷ’r Eos.
Cynnau’r Goleuadau Nadolig – 4.30pm
Bydd y prif ddigwyddiad yn cael ei gynnal tua 4.30pm, pan fydd y dorf yn ymgynnull ar Sgwâr y Frenhines ar gyfer Cynnau’r Goleuadau Nadolig swyddogol.
Ar ôl i’r goleuadau gael eu cynnau, bydd yr Orymdaith Nadolig, sy’n cynnwys gorymdaith llusernau Hospis Tŷ’r Eos, yn teithio trwy ganol y ddinas i Ganolfan Siopa Dôl yr Eryrod.
Gall plant a hoffai gymryd rhan yn yr orymdaith llusernau gofrestru trwy wefan Hospis Tŷ’r Eos. Cost cofrestru yw £6 y plentyn, ac mae oedolion sydd gyda nhw yn gallu cymryd rhan am ddim.
Cyngerdd Goleuadau Byw Dôl yr Eryrod – o 5.30pm
Bydd y dathliadau’n parhau yng Nghanolfan Siopa Dôl yr Eryrod o 5.30pm, gyda chyngerdd byw yn dod â digwyddiadau’r diwrnod i ben.
East 17 fydd prif artistiaid y cyngerdd, ynghyd â rhestr o berfformwyr gan gynnwys Lois Brooks, Owen Paul, Max Sarrre, Liam Halewood, Urban Fusion a mwy.
Dechrau gwych i dymor yr ŵyl
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros Fusnes, yr Economi a Thwristiaeth: “Mae Cynnau’r Goleuadau Nadolig bob amser yn ddigwyddiad poblogaidd yn Wrecsam, ac mae’n ffordd wych o ddod â phobl at ei gilydd a dechrau’r ŵyl.
“Mae hefyd yn adeg bwysig o’r flwyddyn i’n busnesau lleol, ac mae digwyddiadau fel hyn yn helpu i ddod â mwy o bobl i ganol y ddinas, gan gefnogi ein siopau, masnachwyr a busnesau lletygarwch yn y cyfnod cyn y Nadolig.
“Gyda gweithgareddau yn digwydd trwy gydol y dydd, mae rhywbeth i bobl o bob oed ei fwynhau, ac mae’n gyfle gwych i weld canol y ddinas yn brysur ac yn llawn bywyd.
Mae Cynnau’r Goleuadau Nadolig Wrecsam yn cael ei gyflwyno i chi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam mewn cydweithrediad â Fair Events Management, Hospis Tŷ’r Eos a Chanolfan Siopa Dôl yr Eryrod.


