Bydd Wrecsam yn wynebu Middlesbrough ddydd Mercher, 4 Tachwedd, yn y Bencampwriaeth, felly beth am ychwanegu parcio a theithio i’ch arferion ar ddiwrnod gêm.
Mae’r parcio a theithio yn rhedeg rhwng swyddfa’r cyngor ar Ffordd Rhuthun a’r Cae Ras cyn ac ar ôl pob gêm gartref a dim ond £1 yw cost taith ddwyffordd.
Dyma’r manylion llawn cyn y gêm ar 4 Tachwedd.
Wrecsam v Middlesbrough
4 Tachwedd, 2026
Y Gic Gyntaf 7.45pm
Cyn y gêm
Parcio y tu allan i swyddfeydd Cyngor Wrecsam ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam LL13 7TU.
Bydd bysus yn rhedeg bob 20 munud gan ddechrau am 5.45pm; bws olaf 7.05pm.
Ar ôl y gêm
Bydd bysus yn rhedeg bob 20 munud gan ddechrau am 9.45pm o Ffordd yr Wyddgrug; bws olaf 11.05pm.
Mae pob bws ar ôl y gêm yn rhedeg o Ffordd yr Wyddgrug.
Dim ond £1 am daith ddwyffordd i oedolion (50c i blant)
Maes parcio’n cau am 11.45pm.
Os nad ydych chi eisiau gyrru i’r gemau…
Os nad ydych chi eisiau gyrru i’r gemau, beth am ddal y bws a thalu llai wrth ddangos eich tocyn gêm i’r gyrrwr?
Prynwch Docyn Parth Wrecsam (gallwch weld y llwybrau yma) a thalu £3.00 i Oedolion/£2.00 i Blant – gan arbed hyd at £2.60.
Ar ôl y gêm fydd dim brys i deithio gartref gan fod tocynnau dydd yn ddilys hyd at 11.59pm ar y diwrnod, felly gallwch aros yng nghanol y ddinas i ddathlu buddugoliaeth arall! 🤞


