A oeddech chi’n gwybod bod gan Sir y Fflint a Wrecsam Fforwm Mynediad Lleol nawr?
Mae’r ddwy ardal wedi ymuno â’i gilydd yn ddiweddar a’u nod yw gwella mynedfa gyhoeddus at dir yn yr ardaloedd gan gynnig cyngor i gynghorau Wrecsam a Sir y Fflint. Gall eu cyngor gynnwys sut i wella mynediad at gefn gwlad gan sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn cael budd o’r hyn sydd gan yr ardaloedd i’w cynnig. Gall hyn gynnwys gwelliannau i hawliau tramwy cyhoeddus a’r hawl i groesi tir agored a thir comin cofrestredig.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Rydym nawr eisiau clywed gan unrhyw un sydd â phrofiad yn rheoli cefn gwlad, er enghraifft ffermwyr a phobl sy’n defnyddio cefn gwlad yn rheolaidd, er enghraifft cerddwr, marchogion, beicwyr a gyrwyr oddi ar y ffordd a fyddai’n hoffi ymuno â nhw yn y gwaith pwysig hwn.
Bydd angen ichi fynychu pedwar neu bump cyfarfod y flwyddyn a chewch hawlio costau teithio rhesymol yn ôl.
A oes gennych ddiddordeb? E-bostiwch laf@wrexham.gov.uk am fanylion pellach.
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB