Bydd y gwyliau haf yn dechrau’n swyddogol wythnos nesaf, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dechrau eich egwyl 6 wythnos yn iawn (gydag ychydig o lanast, ychydig o gerddoriaeth ac ychydig o chwaraeon!)
Edrychwch ar y rhestr isod a gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yn gwneud y mwyaf o’r profiadau sydd gan y fwrdeistref sirol i’w chynnig.
20 Gorffennaf, 10am – 12pm
Clwb Celf i Deuluoedd
Tŷ Pawb
Sesiwn dan ofal artist i blant a’u teuluoedd grwydro ein horielau a datblygu sgiliau dychymyg a chreu. Mae’r sesiwn yn un galw heibio i deuluoedd. Mae’n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.
£2 y plentyn.
20 Gorffennaf, 11am-3pm
Carnifal Offa,
Bellevue Park
Carnifal Cymunedol gydag ystod o atyniadau
Yn addas ar gyfer pob oed.
AM DDIM
22 Gorffennaf, 10.30am-12 hanner dydd
Amgueddfa Anniben
Amgueddfa Wrecsam
Gall popeth ac unrhyw beth fod yn frwsh paent yn ein sesiwn llawn paent! Ffoniwch 01978 297460 neu e-bostiwch museum@wrexham.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Yn addas i blant 3oed a iau
£2 bob babi / plentyn bach, oedolion am ddim
23 Gorffennaf, 10.30am-12.30pm (galw heibio)
Gwneud a Mynd
Amgueddfa Wrecsam
Ni ydi’r pencampwyr!
Dewch i addurno tlws pêl-droed i fynd adref gyda chi. Ffoniwch 01978 297460 neu e-bostiwch museum@wrexham.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Addas ar gyfer plant 3 oed + £1.50 i bob crefft
23 Gorffennaf, 1-3pm
Hyfforddiant Tenis
Parc Acton
Cyfarfod yn y cyrtiau
Am fanylion e-bostiwch countryparks@wrexham.gov.uk.
AM DDIM
23 Gorffennaf, 3pm ymlaen
Clwb Plant
Llyfrgell Rhiwabon
Dewch i ymuno â’n clwb, a fydd yn cynnwys storïau, Lego, posau a gemau
Ffoniwch 01978 822002 neu anfonwch e-bost at: ruabon.library@wrexham.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Yn addas i blant 5-10 oed
AM DDIM
24 Gorffennaf, 1pm ymlaen
Clwb Ffilm Teulu’r Haf Tŷ Pawb
Y ffilm yr wythnos hon fydd ‘The Lego Movie’ Bydd popgorn a diodydd ar gael cyn y ffilm. I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu eich lle, ffoniwch 01978 292093
£3 yr un neu £10 am docyn teulu
24 Gorffennaf, 1-3pm
Sesiynau Chwaraeon a Gemau
Bellevue Park
Cyfarfod ar safle’r seindorf ar gyfer chwaraeon a gweithgareddau hwyliog. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01978 298997.
8 – 14 mlwydd oed
AM DDIM
25 Gorffennaf, 1.30-3.30pm
Gwartheg Clai a Moch Pridd,
Parc Gwledig Tŷ Mawr
Dewch i gael hwyl yn creu gwartheg clai a moch pridd Ffoniwch 01978 763140 neu e-bostiwch countryparks@wrexham.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Mae’r digwyddiad hwn yn addas i bob oedran.
£2.70
26 Gorffennaf, 4pm ymlaen
Noson Gerddoriaeth
Parc y Ponciau,
Prif Grŵp, Abstract
Bydd lluniaeth ar gael. Dewch â blanced i eistedd arni. Rhoddion i Gyfeillion Parc y Ponciau. Cysylltwch â’r Parc Gwledig ar 01978 763140 neu e-bostiwch countryparks@wrexham.gov.uk
AM DDIM
Mae rhestr o weithgareddau’r gwyliau i blant yn cael ei roi at ei gilydd gan Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam, sydd yn Galw Wrecsam, 16 Stryt Yr Arglwydd, Wrecsam Maent yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth am ddim i rieni a gofalwyr plant 0-19 oed a gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio gyda theuluoedd. Maent ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10.30am tan 2.30pm.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN