Family Art Club

Mae’r foment fawr bron yma!

Nos Iau yma, byddwn yn darganfod a yw Tŷ Pawb Wrecsam wedi llwyddo i ennill Amgueddfa’r Flwyddyn 2022 y Gronfa Gelf – gwobr amgueddfa fwyaf y byd!

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni yn yr Amgueddfa Ddylunio, Llundain.

Bydd y cyhoeddiad gan yr Amgueddfa Ddylunio yn cael ei ddarlledu’n fyw ar y One Show ar BBC1.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Mae Tŷ Pawb yn un o bum amgueddfa ar y rhestr fer ar gyfer gwobr eleni. Mae’r rhestr fer hefyd yn cynnwys Amgueddfeydd Derby, Amgueddfa Gwneud (Derby), Amgueddfa a Gerddi Horniman (Llundain), Amgueddfa Werin y Bobl (Manceinion) a The Story Museum (Rhydychen).

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae cael ein henwi ar restr fer mor fawreddog yn gamp aruthrol. Mae’r Diddordeb cenedlaethol yn Tŷ Pawb a Wrecsam wedi tyfu a thyfu ers cyhoeddi’r rhestr fer gyntaf yn ôl ym mis Mai, gan adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd gennym yn ein cais i ddod yn Ddinas Diwylliant. Mae Tŷ Pawb wedi bod wrth galon hyn ac mae bellach wedi’i gydnabod yn genedlaethol fel enghraifft arloesol o sut i ddod â’r celfyddydau, marchnadoedd a chymunedau ynghyd mewn ffordd sydd o fudd i bawb.

“Byddwn ni i gyd yn gwylio gyda chyffro mawr nos Iau ac yn dymuno pob lwc i’r tîm.”

Bydd yr amgueddfa fuddugol yn derbyn £100,000. Mae pob un o’r amgueddfeydd eraill sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn gwobr o £15,000 i gydnabod eu llwyddiannau.

Aelodau’r panel beirniadu eleni, dan gadeiryddiaeth Cyfarwyddwr y Gronfa Gelf Jenny Waldman, yw: Y Fonesig Diane Lees, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Imperial War Museums; Harold Offeh, arlunydd ac addysgwr; Dr Janina Ramirez, hanesydd diwylliannol a darlledwr, a Huw Stephens, DJ a darlledwr BBC Radio 6.

Gwyliwch yr One Show ar BBC1 o 7pm nos Iau i weld y cyhoeddiad yn fyw.

Gallwch ddarganfod mwy am yr holl amgueddfeydd ar y rhestr fer ar gyfer cystadleuaeth eleni ar wefan y Gronfa Gelf.

Ewch i wefan Tŷ Pawb i ddarganfod mwy am eu holl newyddion a digwyddiadau diweddaraf.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

TANYSGRIFWYCH