Safe Places

Mae Diwrnod Hwyl Cymunedol Lleoedd Diogel i’r teulu i gyd ddydd Gwener, 12 Awst rhwng 10am a 4pm ar Sgwâr y Frenhines.

Bydd hwyl i’r teulu i gyd, gan gynnwys cerddoriaeth, reidiau ffair, stondinau, gemau plant, peintio wynebau, fferins a danteithion. Bydd One Love Choir yn perfformio a bydd sesiynau lles a ffitrwydd i blant. Mae cyfle i roi cynnig ar y bws awtistiaeth rhithwir hefyd.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael stondin yn y digwyddiad hwn, ffoniwch 01978 298475 neu 01978 298550.

Mae cynllun “Lle Diogel” yn sicrhau bod gan bawb sydd yn ymweld â Wrecsam le diogel i fynd iddo os ydynt yn teimlo’n orbryderus neu’n teimlo panig, straen neu’n arbennig o ddiamddiffyn. Mae busnesau lleol yn cofrestru i gymryd rhan yn y cynllun ac yna’n arddangos arwydd y gall defnyddwyr sydd wedi cofrestru ei adnabod gan wybod y gallant gael cymorth gan y rhai y tu mewn.

Mae’n rhoi sicrwydd i bobl o wybod bod ganddyn nhw, neu’r bobl maen nhw’n gofalu amdanynt, le diogel i fynd pan fydd angen. Gall y lle diogel fod yn siop, tafarn, llyfrgell, adeilad cyngor neu unrhyw le sydd ar gael i’r cyhoedd. Bydd sticer yn nodi bod y lle yn “Lle Diogel” a bydd hefyd yn ymddangos yn y gronfa ddata genedlaethol.

Mae menter “Lle Diogel” yn cael ei rhedeg gan SWS (Safonau Gwasanaethau Wrecsam) ac mae’n rhan o gynllun cenedlaethol.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

TANYSGRIFWYCH