Mae Calan Gaeaf yn adeg o’r flwyddyn lle nad oes gymaint o sylw yn cael ei roi ar ddiogelwch oherwydd y pwysau gan blant i gael gwisg ffansi neu bryderon ariannol yn golygu eich bod yn chwilio am opsiynau rhatach.
Gofynnwn i chi edrych yn ofalus ar y nod CE, sydd yn nodi gwarant y gwneuthurwr bod y cynnyrch yn ddiogel, a bydd rhai gwneuthurwyr yn mynd ymhellach na chydymffurfio â’r Gyfarwyddeb Diogelwch Teganau yn unig. Mae eitemau a werthir yn y DU gan aelod o’r Consortiwm Manwerthu Prydain yn debygol o gael eu gwneud i safon uwch o ddiogelwch tân, ac wedi labelu gyda’r geiriau ‘mae’r dilledyn hwn wedi cael prawf diogelwch ychwanegol i fflamadwyedd’.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Cyflwynwyd dau god ymarfer gwirfoddol newydd yn ddiweddar gan y Consortiwm Manwerthu Prydain sydd â safonau fflamadwyedd mwy llym na’r nod CE. Mae’r gofynion hyn, wedi’u hardystio gan y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA) a’r Cyngor Prif Swyddogion Tân Cenedlaethol (NFCC), yn ychwanegol i’r gofynion y Cyfarwyddeb Diogelwch Teganau ac ar gael i unrhyw un eu defnyddio. Newyddion da i unrhyw un sydd yn gwisgo cynnyrch Calan Gaeaf sydd wedi’u gwneud i’r safonau hyn. Mae nifer o archfarchnadoedd Prydeinig wedi cofrestru i gadw stoc Calan Gaeaf sydd yn cydymffurfio â’r mesurau newydd hyn.”
Mae ymgyrch y Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch yn cynghori prynwyr i brynu gan ffynonellau cyfreithiol o’r DU wrth brynu ar-lein i sicrhau bod y cynnyrch yn cydymffurfio â’r safonau diogelwch cenedlaethol.
Gwnewch yn siŵr bod eich gwisg Calan Gaeaf yn rhoi golwg dilys i fynd o ddrws i ddrws ond gall fethu ag ystyried safonau diogelwch fod yn brofiad ofnus.
Un agwedd o bryder i wisgoedd Calan Gaeaf yw wigiau a masgiau wyneb. Nid yw’r gofynion mwy llym hyn o godau ymarfer Consortiwm Manwerthu Prydain yn cyflenwi’r cynnyrch hyn, felly cymrwch ofal arbennig a chadw draw o dân, canhwyllau wedi cynnau a fflamau noeth wrth eu gwisgo.
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD