Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sicrhau bron i hanner miliwn ar gyfer ein hamgylchedd naturiol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Sicrhau bron i hanner miliwn ar gyfer ein hamgylchedd naturiol
ArallY cyngor

Sicrhau bron i hanner miliwn ar gyfer ein hamgylchedd naturiol

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 30, 2019 2:17 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Sicrhau bron i hanner miliwn ar gyfer ein hamgylchedd naturiol
RHANNU

Mae yna newyddion gwych i amgylchedd naturiol Wrecsam yn dilyn cyhoeddiad ein bod ni wedi bod yn llwyddiannus â chais am bron i £500,000 i feithrin natur a gwella iechyd a lles pobl trwy wella’r amgylchedd naturiol.

Roedd y Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant yng Nghymru yn broses gystadleuol iawn gyda cheisiadau o bob cwr o Gymru!

OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio dros dair blynedd mewn prosiectau ym Mharc Caia, Plas Madoc ac yn ein Parciau Gwledig i blannu dolydd blodau gwyllt i annog a denu pryfed peillio – gan gynnwys gwenyn, gloÿnnod byw a gwenyn meirch – gwella mynediad i lefydd naturiol, plannu perllannau a choed a rheoli coetir.

Byddwn yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a Chadwch Gymru’n Daclus a byddwn wrth gwrs yn cynnwys y gymuned leol gymaint ag y gallwn.

“Da iawn i bawb sydd wedi bod yn gweithio ar hyn!”

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydw i’n croesawu’r newyddion yma a fydd yn gwella ein parciau gwledig a’n mannau gwyrdd er budd ein cymunedau. Da iawn i bawb sydd wedi bod yn gweithio ar hyn!”

Mae’r prosiect cyntaf yn cychwyn gyda dôl draddodiadol o flodau gwyllt ar dir agored oddi ar Heol y Frenhines. Bydd yn cynnwys blodau a glaswellt prin a fyddai i’w gweld mewn dolydd ar draws y sir, ond mae newidiadau o ran arferion ffermio a rheoli glaswelltir dros y blynyddoedd diwethaf wedi arwain at lai ohonynt. Bydd yn noddfa i bryfed ac yn lle i’r gymuned leol ei fwynhau.

Mae cynlluniau am berllan newydd hefyd, a chyfle i blant lleol wasgu afalau yn nes ymlaen yn yr hydref ac fe gewch chi’r wybodaeth ddiweddaraf am bob dim sy’n digwydd.

Os hoffech chi fod yn rhan o’r prosiect hwn, un ai yn ymarferol neu trwy helpu gyda gwaith arolygu neu os oes gennych chi eich syniadau eich hun, cysylltwch â’n Swyddog Ecoleg a Bioamrywiaeth ar 01978 2987662 neu anfon e-bost at planning@wrexham.gov.uk

Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/arolwg/977″] DWEUD EICH DWEUD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol A fyddech yn peryglu diogelwch eich plentyn i arbed ychydig o bunnoedd? A fyddech yn peryglu diogelwch eich plentyn i arbed ychydig o bunnoedd?
Erthygl nesaf Mae Alwen Williams wedi cael ei phenodi fel Cyfarwyddwr Rhaglen Bargen Dwf Gogledd Cymru Mae Alwen Williams wedi cael ei phenodi fel Cyfarwyddwr Rhaglen Bargen Dwf Gogledd Cymru

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English