Mae cerbydau trydan wedi cyrraedd y newyddion eto’r wythnos hon yn dilyn cyhoeddiad na fydd holl geir a faniau newydd wedi eu pweru gyda thanwydd a diesel yn cael eu gwerthu yn y DU o 2030. Bydd rhai cerbydau hybrid yn parhau i gael eu caniatáu..
Beth mae hyn yn ei olygu i ni yma yn Wrecsam?
Wel, rydym eisoes ar y ffordd drwy roi’r seilwaith angenrheidiol ar waith i gerbydau trydan gael eu gwefru yn ein depos, meysydd parcio cyhoeddus a pharciau gwledig ac rydym yn bwriadu gwneud mwy.
Rydym eisoes wedi gosod yn Nhraphont Ddŵr Pontcysyllte, Tŷ Mawr, Tŷ Pawb, Byd Dŵr, Dyfroedd Alun, Ffordd Abaty, Ffordd Rhuthun, Stryt y Lampint, Tŵr Rhydfudr, Neuadd y Sir, Canolfan Adnoddau Llai, Plas Pentwyn, Canolfan Fenter y Bers, Canolfan Gymunedol Glyn Ceiriog,
Byddwn yn gosod gorsaf wefru cyflym iawn ym maes parcio’r Waun yn fuan – credir mai dyma fydd y man gwefru cyntaf yng Ngogledd Cymru a’r cyntaf i fod yn eiddo i awdurdod lleol a gorsaf drenau Rhiwabon.
Ond byddwn yn gwneud llawer mwy yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod i wneud yn siŵr y gallwn gadw i fyny gyda’r galw a darparu seilwaith cynaliadwy ac effeithiol ar gyfer preswylwyr, ymwelwyr a busnesau.
Pwysicach nag erioed i osod Pwyntiau Gwefru Trydan
Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n bwysicach nag eiroed i symud ymlaen gyda’n cynlluniau a pahrau i osod pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan ar draws y fwrdeistref sirol. Nid yw deng mlynedd yn amser hir ac mae’n amlwg fod rhai gyrwyr a chwmnïau eisoes yn defnyddio cerbydau trydan. Er mwyn cwrdd â’r cynnydd disgwyliedig yn y galw yn y blynyddoedd nesaf rydym angen gwneud penderfyniadau nawr er mwyn cwrdd â disgwyliadau modurwyr.
“Er y gellir bob amser adolygu cynlluniau a’u newid i gymryd i ystyriaeth gwahanol dueddiadau rydym angen cynllun cadarn nawr i gwrdd â disgwyliadau Dyna pam ein bod yn gofyn i chi gymryd rhan yn ein ymgynghoriad Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio – sy’n cynnwys cynlluniau ar gyfer pwyntiau gwefru cerbydau trydan. Cymerwch ychydig funudau i’n helpu i gael y cynllun hwn yn gywir a sicrhau bod y seilwaith yn ei le ac yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Gallwch ddefnyddio’r ddolen hon i gymryd rhan: http://www.yourvoicewrexham.net/kms/elab.aspx?noip=1&CampaignId=1128
Download the Covid-19 NHS app…and help keep Wrexham safe this autumn.
DOWNLOAD THE NHS APP