Ydych chi’n dymuno ehangu eich busnes arlwyo? Mae Cyngor Wrecsam â’r eiddo perffaith i’w osod o ganol Chwefror 2018 ymlaen.

Yn berffaith ar gyfer rhedeg caffi, mae’r cownter arlwyo i’w gael yn Neuadd Croesnewydd ar y Parc Technoleg ac yn elfen ganolog o’r ardal.

Mae’n berffaith i unrhyw un sy’n edrych i ddechrau neu ddatblygu busnes g yda chegin â llawer o offer gyda’r holl hanfodion sydd eu hangen arnoch i redeg busnes arlwyo llwyddiannus.

CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

Mae modd prynu offer ychwanegol yn uniongyrchol gan y tenantiaid sy’n gadael, maent yn lleihau eu busnes ar ôl degawd o fasnachu llwyddiannus yn yr eiddo.

Mae’r caffi yn yr atriwm ac yn cysylltu Neuadd Croesnewydd ei hun gyda Sefydliad Meddygol y GIG.

Gyferbyn ag Ysbyty Maelor Wrecsam a’r ganolfan i lawer o feddygfeydd meddygol a thechnegol o’i amgylch, mae’n lleoliad perffaith ar gyfer cwsmeriaeth reolaidd gan bobl broffesiynol ac ar agor i’r cyhoedd hefyd.

Gyda 533.79 troedfedd sgwâr o botensial, gallwch fanteisio ar gyfle gwych i fod yn rhan o gymuned o unigolion gweithgar gan ddarparu gwasanaeth gwerthfawr.

Mae ardal y caffi gyda lle i bron iawn 60 o bobl, neu ar gyfer bwffe gall fwydo hyd at 100 o bobl……sy’n golygu y byddwch gam o flaen y gweddill yn ystod prysurdeb amser cinio.

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfle gwych hwn ac eisiau rhagor o wybodaeth cysylltwch trwy anfon neges e-bost (ruth.hamer@wrexham.gov.uk) at ein Tîm Ystadau neu ffonio 01978 315673.

Gallwch hefyd lawrlwytho’r taflen wybodaeth am fwy o fyma.