Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 1, 2025 10:08 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
RHANNU

Ym mis Awst, fel cartref yr Eisteddfod Genedlaethol, rydyn ni’n disgwyl cyfnod prysur i’n darparwyr llety lleol gyda’r holl leoedd carafanau ym Maes Carafanau’r Eisteddfod wedi hen werthu allan – ond mae nifer cyfyngedig o leiniau pebyll ar gael o hyd ar y safle yn ogystal â’r lleoliad ‘Hwyrnos‘ newydd.

Diolch byth, mae gan Wrecsam amrywiaeth eang o westai dilys, lletyau gwely a brecwast, lletyau hunanarlwyo a pharciau gwyliau i ddewis ohonyn nhw, gyda phob un yn paratoi i roi croeso cynnes.

Os nad ydych chi wedi llwyddo i drefnu eich llety ar gyfer wythnos yr Eisteddfod eto, mae rhywfaint o argaeledd yn parhau i fod yn yr ardal, er bydden ni’n argymell trefnu cyn gynted â phosibl gan fod y galw’n uchel. 

Mae’r rhestr isod yn cynnig rhai syniadau am leoedd i aros yn ardal Wrecsam a gogledd-ddwyrain Cymru;

Rhestr lletyau swyddogol Croeso Cymru ar gyfer Sir Wrecsam (gweler; Llety gwyliau | Llefydd i aros | Croeso Cymru )

Mae’r wefan ymweld â Gogledd Ddwyrain Cymru hefyd gyda amrywiaeth eang o ddarparwyr llety achrededig, wedi’u rhestru yn; Llety – Gogledd Ddwyrain Cymru – North East Wales

Os ydych chi’n cael trafferth dod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch chi yn Wrecsam, neu os ydych chi’n gobeithio aros ychydig ymhellach i ffwrdd, mae gan ein partneriaid rhanbarthol yn Go North Wales, Visit Chester & Cheshire a Visit Shropshire rai rhestrau gwych hefyd. 

Swydd Gaer – Visit Chester & Cheshire | Accommodation

Swydd Amwythig – Visit Shropshire – Accommodation in and around Shropshire

Go North Wales – Accommodation & Places To Stay in North Wales

Os ydych chi’n berchen ar fusnes llety i dwristiaid yn Wrecsam a’r cyffiniau, efallai yr hoffech chi ystyried defnyddio’r gwasanaeth cyfieithu AM DDIM Helo Blod – a defnyddio rhywfaint o Gymraeg ar eich cyfryngau cymdeithasol neu yn eich hysbysebion i groesawu cwsmeriaid.

Dywedodd Aelod Arweiniol yr Economi, Adfywio a Thwristiaeth, y Cynghorydd Nigel Williams: “Os ydych chi’n aros yn ardal Wrecsam ar gyfer wythnos yr Eisteddfod – beth am archwilio rhai o’n hatyniadau lleol hefyd?  Rydyn ni’n gartref i Safle Treftadaeth y Byd UNESCO sy’n rhychwantu 11 milltir ym Mhontcysyllte, mae gennyn ni ddwy Ystâd Ymddiriedolaeth Genedlaethol (Erddig a Chastell y Waun), ynghyd â lleoedd gwych eraill i ymweld â nhw fel ardal hardd Dyffryn Ceiriog ar gyrion Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd, Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore, Tŷ Pawb (neuadd gelfyddydau, marchnadoedd a bwyd), canol dinas bywiog heb draffig, tafarndai a bariau gwych gan gynnwys y Saith Seren (ein canolfan a thafarn gymunedol Gymraeg), yn ogystal â lleoedd gwych i fwyta.

“Allwn ni ddim aros i roi croeso i bawb i Wrecsam.”

Rhannu
Erthygl flaenorol 50 Arbenigwyr gwelyau hynafol Wrecsam yn dathlu 50 mlynedd
Erthygl nesaf Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English