Yr ateb i’r cwestiwn hwn yw oes, mae’n rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, a dyma’r canllawiau uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru sydd wedi’i wneud yn orfodol o ddydd Llun:
“Bydd angen gorchuddion wyneb ym mhob man cyhoeddus dan do, ar gyfer cwsmeriaid a staff sy’n gweithio yn y mannau cyhoeddus dan do hynny.
“Mae hyn yn cynnwys ystod eang iawn o leoliadau, megis siopau a chanolfannau siopa, addoldai, trinwyr gwallt a salonau, sinemâu ac amgueddfeydd, campfeydd a chanolfannau hamdden, ac unrhyw le sy’n agored i aelodau’r cyhoedd.
“Yr unig fannau cyhoeddus dan do lle na fydd angen gorchuddion wyneb yw lle rydych y tu mewn i le i fwyta neu yfed, er enghraifft caffis, bwytai a thafarndai.
Ond lle nad yw bwyd a diod ond yn cael eu gweini i’w bwyta mewn rhan o’r safle – er enghraifft, caffi sydd hefyd yn cynnig gwasanaethau cludfwyd – bydd angen i chi wisgo gorchudd wyneb yn y rhannau o’r safle lle nad yw pobl yn bwyta nac yn yfed.”
Mae’r neges yn glir ac yn golygu na ddylai unrhyw un ohonom fynd allan heb orchudd wyneb wrth law, gan ei fod yn debygol iawn y bydd arnoch chi angen ei ddefnyddio.
Mae’r canllawiau llawn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ac rydym yn argymell yn gryf i chi eu darllen. Peidiwch â derbyn cyngor gan ffynonellau answyddogol os nad ydych chi’n siŵr – edrychwch ar y canllawiau swyddogol.
YMGEISIWCH RŴAN