Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Arddangosfa Agored Tŷ Pawb: Arddangosfa sy’n Dathlu Creadigrwydd yn ystod y Cyfnod Cloi-i-lawr.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Arddangosfa Agored Tŷ Pawb: Arddangosfa sy’n Dathlu Creadigrwydd yn ystod y Cyfnod Cloi-i-lawr.
ArallPobl a lleY cyngor

Arddangosfa Agored Tŷ Pawb: Arddangosfa sy’n Dathlu Creadigrwydd yn ystod y Cyfnod Cloi-i-lawr.

Diweddarwyd diwethaf: Medi 17, 2020 10:11 am
Rhannu
Darllen 5 funud
ty pawb open
RHANNU

Bydd Tŷ Pawb yn croesawu ymwelwyr yn ôl i’w galerïau yn ystod mis Hydref drwy lansio arddangosfa newydd, o’r enw ‘Arddangosfa Agored Tŷ Pawb.’

Cynnwys
  • Gwobrau i’w cyhoeddi
  • Oriau agor a gwybodaeth ddiogelwch
  • Sut i archebu
  • ‘Dathliad o creadigrwydd, arloesedd a’r gwytnwch’

Yn dilyn galwad agored a arweiniodd at 350 o arlunwyr yn cyflwyno hyd at dri darn o waith i’w hystyried, byddwn yn cyflwyno gwaith dros 100 o’r rhai a gymerodd ran. Bydd dros 121 o ddarnau gwaith yn cael eu harddangos yng ngalerïau Tŷ Pawb. Mae hyn yn cynnwys 60 o arlunwyr Cymraeg.

Gwobrau i’w cyhoeddi

Ar noson agoriadol yr arddangosfa, dydd Gwener, 2 Hydref o 6:30pm, bydd y beirniaid yn cyhoeddi enillwyr y gwobrau yn y tri chategori canlynol: Gwobr y Beirniaid, Gwobr yr Unigolyn Ifanc, a’r Wobr Gymhwysedd ar gyfer yr ymateb mwyaf dyfeisgar i’r cyfnod clo.

Ein beirniaid yw:

Alistair Hudson
Cyfarwyddwr, Oriel Celf Manceinion & Oriel Celf Whitworth

Lesley James
Ennillydd Gwobr Y Beirniaid 2018

Ffion Rhys
Curadur, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Bydd modd pleidleisio ar gyfer pedwerydd categori, sef Gwobr y Bobl, drwy gydol yr arddangosfa, a byddwn yn cyhoeddi’r enillydd ym mis Rhagfyr.

Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws

 

Oriau agor a gwybodaeth ddiogelwch

Bydd yr arddangosfa ar agor i’r cyhoedd o ddydd Sadwrn, 3 Hydref tan ddydd Mercher, 23 Rhagfyr.

Bydd y galerïau ar agor o 10am tan 4pm, dydd Mercher – dydd Sadwrn (ar gau ar ddydd Sul, dydd Llun a dydd Mawrth).

I sicrhau fod ymwelwyr yn gallu mwynhau’r arddangosfa’n ddiogel, dim ond hyn a hyn o bobl fydd yn cael mynediad i’r galerïau ar unwaith. Cynghorir yn gryf i chi archebu lle ymlaen llaw, Gweler isod am fanylion ar sut i archebu

Bydd glanweithwyr dwylo ar gael wrth y mynedfeydd i Tŷ Pawb.

Bydd system unffordd ar waith yn yr orielau.

Byddwn yn cymryd manylion ar gyfer Profi ac Olrhain wrth i chi fynd i mewn i’r oriel.

Gofynnwn i bob ymwelydd wisgo mwgwd wyneb.

Bydd aelod o dîm Tŷ Pawb wrth law i roi arweiniad ac ateb unrhyw ymholiadau.

Sut i archebu

Byddwn yn cyhoeddi’r holl fanylion ar sut i archebu ar y dudalen hon yn fuan iawn. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol:

Facebook
Twitter
Instagram

Neu Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

Gallwch hefyd gysylltu â ni:
typawb@wrexham.gov.uk
01978 292144

‘Dathliad o creadigrwydd, arloesedd a’r gwytnwch’

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Prif Aelod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam dros Gymunedau, Partneriaethau, Amddiffyn y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, “Rydym yn falch o allu croesawu ymwelwyr yn ôl yn ddiogel i galerïau Tŷ Pawb a rhoi cyfle i arlunwyr ddangos eu gwaith mewn galeri unwaith eto.

“Bu’n rhaid canslo neu ohirio arddangosfeydd ar draws y wlad o fis Mawrth eleni yn sgil effaith COVID-19. Mae arlunwyr wedi bod yn defnyddio dulliau arddangos eraill o ganlyniad.

“Trwy gydol y cyfnod hwn, mae Tŷ Pawb wedi cynnig rhaglen ‘Celf Cartref’ ar-lein a oedd yn cynnwys perfformiadau cerddoriaeth byw, gweithgareddau celf ar-lein ar gyfer teuluoedd ac Aseiniadau Creadigol arloesol a ddatblygwyd gydag arlunwyr ar draws Cymru. Mae’r gweithgareddau wedi bod yn boblogaidd iawn ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd nifer o’r gwaith a grëwyd gan y cyfranogwyr yn cael eu harddangos yn nigwyddiad Agor Drysau Tŷ Pawb.”

“Bydd yr arddangosfa’n dathlu’r creadigrwydd, arloesedd a’r gwytnwch a ddatblygwyd gan arlunwyr yn ystod y cyfnod clo dros yr ychydig fisoedd diwethaf.

“Rydym wedi dotio’n lân at yr amrywiaeth enfawr o waith a’r safon uchel a gyflwynwyd i ni.   Bydd yr arddangosfa’n cynnwys dros 120 o ddarnau gwaith ar draws ystod eang o lwyfannau creadigol, o beintio a cherflunio i argraffu a fideos, felly bydd rhywbeth at ddant pawb.”

Sut i gael prawf

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol GALW CYNNYRCH YN ÔL: Galw silindrau nwy BBQ yn ôl er diogelwch GALW CYNNYRCH YN ÔL: Galw silindrau nwy BBQ yn ôl er diogelwch
Erthygl nesaf Face Coverings A oes rhaid i mi wisgo gorchudd wyneb dan do?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Hydref 1, 2026
the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English