Cynhelir etholiadau lleol yn Wrecsam ar 5 Mai, pan fyddwch yn gallu pleidleisio ar gyfer pwy hoffech chi fel cynghorydd lleol. Ond beth os mai dim ond un sy’n sefyll yn eich ardal?
Mae pawb yn Wrecsam wedi cael cerdyn pleidleisio, ond mae wyth ward sydd ag ond un sy’n sefyll. Gelwir y rhain yn wardiau ‘heb gystadleuaeth’ ac mae’r sawl sy’n sefyll yn sicr o gael y sedd.
Felly.. os ydych yn byw yn un o’r ardaloedd canlynol, ble nad oes cystadleuaeth, nid oes angen i chi fynd i bleidleisio ar ddiwrnod y bleidlais.
- Cartrefle
- De’r Waun
- Dyffryn Ceiriog
- Esclus
- Garden Village
- Holt
- Stansty
- Borras
**5 Mai yw’r dyddiad hefyd ar gyfer ethol cynghorwyr cymuned . Mae bob un heblaw un o’r ardaloedd a restrir uchod ‘heb gystadleuaeth’ ar gyfer seddi cynghorwyr sir a chynghorwyr cymuned, sef CC Parc Caia – Ward Cartrefle. Felly, os ydych yn byw yn CC Parc Caia – Ward Cartrefle byddwch yn gallu pleidleisio ar gyfer eich cynghorwyr cymuned yn yr orsaf bleidleisio ar 5 Mai.**
Mae’r holl wardiau a’r ymgeiswyr, gan gynnwys ‘seddi heb gystadleuaeth’, wedi eu rhestru ar dudalen etholiadau a swyddi gwag ar wefan y cyngor.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH