Bydd y Gronfa Cadernid Economaidd, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, yn darparu cymorth ariannol ychwanegol yn ystod pandemig y Coronafeirws ac yn cynorthwyo sefydliadau i reoli pwysau o ran llif arian.
Bydd yn helpu i fynd i’r afael â bylchau nad ydynt yn cael eu llenwi gan y cynlluniau a gyhoeddwyd eisoes gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Meddai’r Prif Weithredwr, Ian Bancroft ac Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard: “Rydym yn croesawu’r Gronfa hon a fydd yn helpu busnesau ac elusennau sy’n cael trafferth â llif arian yn sgil y cyfyngiadau sydd wedi’u gosod arnom ac yn ystod y cyfnod anodd hwn. Ond ni fydd pawb yn gymwys, felly cofiwch wirio i weld a ydych yn gymwys neu beidio cyn ymgeisio.”
I fod yn gymwys ar gyfer yr ail gam hwn o gymorth, bydd gofyn i fusnesau, elusennau a mentrau cymdeithasol fodloni cyfres o feini prawf gan gynnwys y canlynol:
- Gallai microfusnesau, gan gynnwys busnesau newydd, sy’n cyflogi hyd at naw o weithwyr fod yn gymwys i gael cymorth gwerth hyd at £10,000. Mae hyn yn cynnwys unig fasnachwyr sy’n cyflogi staff. Gallai busnesau yn y categori hwn fod yn gymwys i gael cymorth:
- Os ydynt wedi gweld eu trosiant yn gostwng dros 40% ers 1 Mawrth 2020
- Os gallant ddangos y gwnaed ymdrechion i gynnal gweithgarwch y busnes
- Os nad ydynt yn ymgeisio am fathau eraill o gymorth grant gan Lywodraeth Cymru nad oes rhaid ei ad-dalu
- Os nad ydynt yn gymwys i gael grantiau rhyddhad ardrethi busnes
- Os ydynt wedi cofrestru at ddibenion TAW neu’n eithrio rhag TAW
- Os yw eu cyfeiriad gweithredol yng Nghymru ac os oes ganddynt weithwyr yng Nghymru
- Gallai busnesau bach a chanolig sy’n cyflogi rhwng 10 a 249 o weithwyr fod yn gymwys i gael grantiau o hyd at £100,000:
- Os ydynt wedi gweld eu trosiant yn gostwng dros 60% ers 1 Mawrth 2020
- Os nad ydynt yn gymwys i gael grantiau rhyddhad ardrethi busnes, neu os ydynt, byddai’r swm hwnnw’n cael ei dynnu o’u dyraniad o’r gronfa hon
- Os oes ganddynt gynllun busnes cynaliadwy i fasnachu y tu hwnt i’r pandemig Covid-19
- Os ydynt yn cadarnhau na fydd unrhyw ddileu swyddi gorfodol yn digwydd yn y dyfodol cyn belled ag y bo’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil y Coronafeirws ar waith
- Os nad ydynt yn ymgeisio am fathau eraill o gymorth grant gan Lywodraeth Cymru nad oes rhaid ei ad-dalu
- Bydd cyllid ar gael hefyd i gefnogi busnesau mawr sy’n cyflogi dros 249 o weithwyr.
Ystyrir pob cais yn unigol, fesul achos, er mwyn ystyried sut y gellir defnyddio’r cyllid yn effeithiol i gyd-fynd â ffynonellau cymorth eraill.
Gellir dod o hyd i fanylion y meini prawf cymhwyso ar: https://fundchecker.businesswales.gov.wales/cy
Bydd y broses ymgeisio ar gyfer busnesau sy’n gymwys am gymorth ariannol gan y Gronfa Cadernid Economaidd yn agor ddydd Gwener, 17 Ebrill ar wefan Busnes Cymru.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19