Fel unrhyw sefydliad mawr arall, mae’n rhaid i gynghorau amddiffyn eu hunain yn erbyn twyll.
Mae’n rhaid i ni sicrhau bod gennym y gwiriadau a’r gweithdrefnau ariannol cywir yn eu lle i rwystro pethau drwg rhag digwydd – gan sicrhau y caiff arian trethdalwyr ei reoli a’i warchod.
Felly .. y cwestiwn pwysig. A ydi’r gwiriadau cywir yn eu lle yng Nghyngor Wrecsam?
Bydd ein Pwyllgor Archwilio yn gofyn y cwestiwn hwnnw pan fydd yn cyfarfod yn ddiweddarach yn yr wythnos.
Mynd i’r afael â thwyll
Bydd y pwyllgor yn edrych ar beth yr ydym wedi bod yn ei wneud i rwystro a mynd i’r afael â thwyll dros y flwyddyn ddiwethaf, a sut y byddwn yn rheoli’r peryglon dros y tair blynedd nesaf.
Bydd adroddiad yn ei wneud yn glir na fydd y cyngor yn goddef twyll o unrhyw fath – boed yn cael ei gyflawni gan gyflogai, cynghorwyr, cwsmeriaid, cyflenwyr neu unrhyw un arall.
Byddwn bob amser yn ceisio erlyn twyllwyr, neu gymryd camau disgyblu neu fesurau eraill i adfer colledion.
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
Cadeirir y pwyllgor hwn gan Jerry O’Keeffe. Nid yw’n gynghorydd na’n gyflogai, ond yn aelod annibynnol o’r cyhoedd.
Dywed: “Fel unrhyw sefydliad mawr arall, mae’n rhaid i’r cyngor amddiffyn ei hun rhag twyll – boed yn fewnol neu’n allanol.
“Yn ogystal â dwyn cyllid prin y cyngor ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, gall twyll a llygredd hefyd niweidio morâl a thanseilio hyder yn y cyrff cyhoeddus.
“Nid oes tystiolaeth bod twyll yn broblem sylweddol yng Nghyngor Wrecsam. Ond yn genedlaethol, mae’r perygl yn parhau’n uchel, felly mae’n hanfodol ein bod yn parhau i reoli’r perygl hwnnw.”
Dewch i’r cyfarfod
Mae cyfarfodydd y pwyllgor yn agored i’r cyhoedd, felly pam na wnewch chi ymuno os gewch chi’r cyfle?
Gall y pwnc fod yn ddifrifol, ond nid yw’r cyfarfodydd yn sych na’n codi ofn.
Meddai Mr O’Keeffe: “Cânt eu cynnal mewn dull cynhwysol i annog pobl i ddadlau a herio. Anogir aelodau o’r cyhoedd i fynychu, ac rydym bob amser yn falch i weld pobl yn dangos diddordeb yn ein gwaith.
“Mae’n hynod bwysig bod bobl yn gallu deall a chraffu ar beth yr ydym yn ei wneud i reoli peryglon twyll.”
A oes gennych ddiddordeb? Cynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Iau yma, Gorffennaf 26 yn Neuadd y Dref yn Wrecsam, mae’n dechrau am 4pm.
Bydd gofyn i’r pwyllgor hefyd gymeradwyo Datganiad Cyfrifon Blynyddol y Cyngor, ac ystyried sut a lle y dylai sylw’r pwyllgor ganolbwyntio arno yn y dyfodol.
Gellir gweld y rhaglen ar wefan y cyngor.
Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein.
DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN