Bydd teras o adeiladau rhestredig Gradd II yn Rhiwabon yn cael gwaith adnewyddu mawr ei angen dros y misoedd nesaf.
Mae’r Eglwystai – a gaiff eu galw’n Elusendai hefyd – ar Church Street ac fe’u hadeiladwyd fwy na 300 mlynedd yn ôl.
Maen nhw wedi’u diweddaru dros y blynyddoedd ond mae llawer o’u nodweddion hŷn yn dal i fod yno…gan gynnwys ffenestri adeiniog haearn bwrw Gothig a chaeadau plwm wedi’u cerfio.
Ar hyn o bryd, mae asiantaeth gosod tai cymdeithasol fewnol Cyngor Wrecsam yn rheoli a gosod yr eiddo ar ran Ymddiriedolwyr Elusen Elusendai Rhiwabon.
Mae’r elusen yn awyddus i fuddsoddi yn yr eiddo er mwyn cadw a diogelu eu cymeriad hanesyddol a sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gartrefi dymunol a chyfforddus.
Paul Martin o Gyngor Wrecsam fydd yn rheoli’r gwaith fel rhan o gynllun Houseproud y Cyngor.
Mae’r cynllun yn helpu perchnogion eiddo i reoli gwaith trwsio ac adnewyddu ac mae’n darparu mesurau diogelu fel eu bod yn gwybod y caiff gwaith ei wneud mewn modd diogel ac i safon uchel.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai: “Dywedir bod yr Elusendai wedi’u hadeiladu gan y Ficer Richard Davis ym 1711.
“Fe’u defnyddiwyd yn wreiddiol i ddarparu cartrefi i bobl dlawd neu dan anfantais yn y plwyf, ond heddiw, maen nhw’n cynnig llety cyfforddus i fuddiolwyr tai yr elusen.
“Maen nhw’n enghreifftiau swynol o’r math hwn o eiddo, ac mae’n hyfryd ein bod yn gallu gofalu amdanynt a gwneud y gwaith trwsio pwysig hwn, er mwyn iddynt allu parhau i ddarparu cartrefi i bobl.”
Bydd y Cyngor yn defnyddio crefftwyr medrus fel rhan o’r gwaith adnewyddu a bydd gwaith trwsio yn cynnwys gwaith ar y ffenestri, drysau, caeadau plwm a gwaith paent allanol.
Bydd y preswylwyr yn gallu aros yn eu cartrefi tra mae’r gwaith yn cael ei wneud.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Cynllunio, sy’n cynnwys cadwraeth adeiladau: “Gydag adeiladau traddodiadol fel rhain, mae’n bwysig gwneud gwaith mewn ffordd ofalus a sympathetig.
“Dyna pam fyddwn ni’n defnyddio deunyddiau a dulliau sy’n cyd-fynd â’r nodweddion gwreiddiol, ac yn defnyddio masnachwyr sydd â phrofiad o weithio ar adeiladau rhestredig Gradd II.
“Mae’r hen eiddo hyfryd hyn yn Ardal Gadwraeth Rhiwabon, ac mae ganddynt rôl bwysig i’w chwarae o ran cymeriad hanesyddol y pentref. Rwy’n falch iawn ein bod yn helpu i ofalu amdanynt.”