Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Digwyddiad Recriwtio Llwyddiannus i’r Diwydiant Adeiladu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Digwyddiad Recriwtio Llwyddiannus i’r Diwydiant Adeiladu
Y cyngorBusnes ac addysg

Digwyddiad Recriwtio Llwyddiannus i’r Diwydiant Adeiladu

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 23, 2023 3:08 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Construction
RHANNU

Mynychodd dros 60 o bobl leol ddigwyddiad recriwtio diweddar i’r maes adeiladu yng nghanolfan Tŷ Pawb, a chawsant gyfle i siarad gyda chwmnïau lleol sydd wrthi’n recriwtio yn y diwydiant adeiladu.

Ymysg y cwmnïau oedd yn bresennol oedd, Wynne Construction, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, SWG Construction, Henry Williams & Son, Performance Civils Ltd, Gareth Morris Construction a MPH Construction.

Roedd darparwyr lleol wrth law hefyd i drafod cyfleoedd hyfforddiant a chefnogaeth yn y sector, yn cynnwys Adran Gwaith a Phensiynau, Gyrfa Cymru a Dysgu Oedolion yn y Gymuned a Groundwork. Daeth Prifysgol Glyndŵr â dronau gyda nhw er mwyn tynnu sylw at y cymwysterau lefel uwch maen nhw’n eu cynnig, a chynhaliodd Coleg Cambria ymarferon gwaith coed a gosod brics. Roedd yr Efelychwr Gyrru yn boblogaidd iawn hefyd, gan roi cyfle i bobl brofi eu sgiliau gyrru cerbyd dympio.

Trefnwyd y digwyddiad gan Cymunedau am Waith a Mwy Wrecsam mewn partneriaeth â CITB.

Dywedodd Rheolwr Rhaglen Cyflogaeth Cymunedol, Jon Sankey, “Roedd hi’n wych gallu darparu cyfle i gyflogwyr lleol i gyfarfod pobl sydd â diddordeb ymuno â’r diwydiant adeiladu, a sôn wrthynt am y niferoedd enfawr o fathau gwahanol o waith sydd ar gael.

“Dwi’n gobeithio bod y gweithgareddau rhyngweithiol wedi rhoi syniad ymarferol i bobl o sut beth yw gweithio ar safle a gwneud rhai o’r swyddi sydd ddirfawr eu hangen ar hyn o bryd, ac egluro pa gefnogaeth y gallwn ni ei roi iddynt os ydynt yn dymuno cael gyrfa yn y diwydiant.  Rydw i eisiau diolch i’r holl arddangoswyr a ddaeth draw a gobeithio ei fod wedi bod yn brofiad buddiol iddyn nhw ac y byddant yn ymuno â ni yn y dyfodol wrth i ni gynnal digwyddiadau tebyg”.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, “Mae diwydiannu adeiladu wrthi’n recriwtio yn ardal Wrecsam ar hyn o bryd ac mae yna gyfleoedd gwych i bobl leol. Roedd hwn yn ddigwyddiad poblogaidd iawn a dwi’n gobeithio y gellir ei gynnal eto i ddiwydiannau eraill yn y dyfodol”.

“Fe hoffwn i ddiolch i’r holl staff a fu’n rhan o’r gwaith o ddod â chymaint o gwmnïau ynghyd er mwyn sicrhau digwyddiad llwyddiannus.”

Os ydych chi’n byw yn Wrecsam, yn ddi-waith ar hyn o bryd ac os nad ydych chi mewn addysg, yna gall Cymunedau am Waith a Mwy Wrecsam eich helpu i fynd ar gwrs CSCS sydd wedi’i ariannu’n llawn a mentora un-i-un i helpu i’ch cefnogi mewn i gyflogaeth. Yn syml, llenwch eich gwybodaeth yn y ddolen isod www.wrexham.gov.uk/mentoring a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi neu fel arall, gallwch ffonio 01978 318853 neu 01978 820520.

Rhannu
Erthygl flaenorol Digwyddiad Rhwydweithio Wythnos Lles y Byd – cysylltu, cydweithio a thyfu
Erthygl nesaf The Alms terraced houses in Ruabon Adeiladau 300 mlwydd oed yn cael gofal tyner

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English