Lluniodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam ei Gynllun Llesiant yn 2018, ond ers hynny mae’n deg dweud nad yw popeth wedi mynd yn ôl y cynllun!
Oherwydd Covid-19 bu’n rhaid i aelodau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus – fel pawb arall – droi eu sylw at helpu pobl mewn angen dybryd a mynd i’r afael â’r problemau’r oedd Covid-19 yn eu creu wrth iddynt ddigwydd, a buont yn gweithio’n agos â Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint ar gyfer hynny.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Ymhen amser maent hefyd wedi cael y ddyletswydd o gynllunio a gweithio ar gyfer adferiad ein cymunedau.
Cynhaliodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ddarn o waith gyda myfyrwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr i ganfod pa wersi y gellid eu dysgu yn sgil y pandemig a beth ellid ei ddefnyddio wrth helpu ein cymunedau i adfer ar ei ôl, ac mae’r canlyniadau wedi’u cyhoeddi mewn cylchgrawn o’r enw Llesiant.
Mae llawer o’r syniadau a gyflwynir yn Llesiant hefyd yn berthnasol i ymgynghoriad cyfredol y Bwrdd sy’n gofyn i chi, drigolion Wrecsam, i ddweud wrtho mor bwysig y credwch yw’r saith nod llesiant i chi a’ch teulu.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL